Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gofio, mae yn debyg, mai "yn amlder cynghorwyr y mae diogelwch." Ond, ar y cyfan, gwnai ymdrechion canmoladwy i hyfforddi ac i geisio llyfrau i'r "bachgen bach." Parhau a wnaeth yntau i ddarllen; a phan y dechreuodd feddwl y gallai brydyddu, barnodd fy nhad fod diwedd am dano, ac y dygai ei benwyni i'r bedd mewn tristwch. Credai nad oedd yn ei aros, os dilynai y fath fywyd segurllyd, ond y carchar a'r crogbren.

Ond wedi hir dymhestloedd, wedi parhau o honynt am bump neu chwe' blynedd, canodd yr efrydydd ieuanc yn iach i dŷ ei dad; ac o radd i radd, argyhoeddwyd yr hen wr fod ei fab wedi gweithio iddo ei hun gymeriad gwerth ei gadw; ac o hynny allan, ei gyngor ymadawol bob amser fyddai, —" Edrych atat dy hun; mae dy gymeriad ar dy law dy hun, ac os na ofeli di am dano, ni wna neb arall." Cyngor da, llawn o'r doethineb puraf; a mynych y rhoddwyd ef wrth sefyll ar y ffordd, neu ael y mynydd, neu eistedd ar y dorlan, yn adeg yr ymadawiad.

Ond y fam, wedi y cyfan, oedd wedi ffurfio y meddwl. Oni buasai hi, nis gallasai y meddwl ieuanc lai na suddo. Cauesid ef mewn cylch bychan tywyll a buasai yn alltud bythol i bleserau melusion gwybodaeth, ac yn anwybodus am eangder cyfoeth llenyddiaeth. Ysgrifennir hyn er addysg i famau Cymru. O flaen pob peth, bydded iddynt roddi addysg i'w plant. Gallant eu gadael heb arian, ac heb gyfoeth; ond hwy a agorant y Nefoedd a'r ddaear o'u blaen trwy hyn. Bydded iddynt ychwanegu, fel y gwnaeth fy mam, esiampl dda, a gofal am eu moesoldeb, a'u mynych gyflwyno i ofal y Nef, a'u "plant a gyfodant ac a'u galwant yn ddedwydd."

X. Y TY CROES.

Ni wenodd y byd ar fy rhieni. Er dechreu yn dda, eto, drwy golledion anffodus ar anifeiliaid, a gorfod gwerthu eu heiddo ar symudiad anisgwyliadwy o dyddyn, pan yr oedd prisiau uchel y rhyfel Ewropeaidd wedi gostwng, ni flagurasant fel y lawryf gwyrdd. Er mai llaw y diwyd a gyfoethoga," eto, "nid yw y post aur yn tyfu wrth ddrws pawb." Trefnodd Rhagluniaeth iddynt fywyd isel dros y chwe' blynedd ar hugain diweddaf o einioes fy mam, mewn tyddyn bychan, lle y porthwyd hwy â digon o fara, er na