Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chawsant nemawr o ddanteithion bywyd. Cawsant ran y cyffredin o lafurwyr a mân amaethwyr Cymru. Ni buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa, na'r pistyll gloew gris- ialaidd o flaen y drws, drwy yr amser. Yn henaint a gwendid fy mam, dangoswyd iddi fawr garedigrwydd a chydymdeimlad gan amryw gyfeillion a chymydogion. Hedd, dedwyddwch, a llwydd- iant iddynt hwy a'r eiddynt oll.

XI. Y DADLEUON.

Fel y crybwyllwyd yn barod, ymunodd fy mam â chrefydd pan yn ieuanc, ac ymlynodd wrthi hyd ei hen ddyddiau. Bu yn addurn ei hieuenctyd, ac yn goron ei phenllwydni. Yr oedd ei sel dros yr achos bob amser yn wresog. Ei barnau athrawiaethol oeddynt uchel-Galfinaidd. Tebyg i'r syniadau hyn gael eu mabwysiadu ganddi yn amser ymraniad eglwysig a gymerodd le yn y Bala, yn fuan ar ol iddi ymuno â'r eglwys yno. Nis gallaf lai nag ystyried rhwygiadau eglwysig yn felldithion crefyddwyr. Crebachant eneidiau dynion, fel na aliant oddef dim, na theimlo dim, ond eu shiboleth gredoawl eu hunain. Llanwant y meddwl â rhagfarn, a thueddant braidd bob creadur bychan i gymeryd arno fod agoriadau pyrth Paradwys yn ei law. Darllennir llyfr Arfaeth mor llithrig a'r llyfr corn. Y mae dirgelion etholedigaeth ar bennau y bysedd. Deallir cyfamod y Prynedigaeth yn well na thaflen pen-llanw y môr yn yr Almanac. Nid oes dim dirgelwch mewn prynedigaeth neillduol. Nid yw esbonio cyfiawnhad yn fwy anhawdd na phlethu gwden llidiart. Mae parhad mewn gras yn athrawiaeth mor hawdd ei deall ag yw teimlo oerfel ar wyliau Nadolig. Nid oes lle i ddadl am danynt. Ynfyd yw y dyn a'u hamheuo. Nid yw yn iach yn y ffydd; mae y gwahanglwyf arno. A'r un modd mae gyda y blaid wahanol. Mae eu hathrawiaethau hwythau fel yr haul, a'r haul fel ei Greawdwr, ac am hynny yn berffaith; a dyna ben ar y mater. Anhawdd i mi ofidio yn rhy ddwys, er mai ofer yw, i rwygiad eglwys Llanuwchllyn niweidio ysbryd crefyddol fy mam. Trwy hyn treuliais flynyddoedd boreuaf fy mywyd yn swn brwydrau duwinyddawl, ac yn cael ar ddeall fod bron holl weinidogion Gogledd Cymru wedi cyfeiliorni yn ddirfawr. Enciliodd fy rhieni