Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd person Llanwddyn yn difyr eistedd gyda chwedleuwyr y llan, wrth dân yr odyn, ar hirnos gauaf, i ymryson dywedyd anwiredd â hwy. Yr oedd ef wedi bod yn pysgota, ac wedi dal, a'r creyrglas wedi llyncu ei bysgodyn, a'i gludo yntau gerfydd llinyn yr enwair o bellder daear i ymyl tý ei fam, yn swydd Aberteifi. Yr oedd ryw dro wedi colli ei ffordd yn Dover, a myned i gysgu. mewn cyflegr, yr hon a daniwyd bore drannoeth, ac ysgubwyd ef fel lluch-belen drwy yr awyr, hyd nes y disgynnodd o fforchog ar ben tâs mawn ei fam drachefn. Yr oedd y chwedleuwyr, hwythau, wedi gweled llysieuyn, neu foronyn coch, yr hwn nas gallasai deg pen o geffylau prin ei symud. Yr oedd un arall wedi gweithio y badell bres a'i berwasai. Yr oedd un wedi curo hoelen drwy y lleuad, ac un arall wedi bod wrth ei chefn yn ei hadergydio. Wrth fyned adref o'r farchnad, yr oedd gwr Llidiart y Rhos yn digwydd syrthio yn fynych ar draws palff o ddyn meddw, yr hwn, fel y ceid allan yn y diwedd, nid oedd yn neb llai ei urddas nag offeiriad y plwyf. Yr oedd y bobl yn methu o eisieu gwybodaeth. Nid oed weledigaeth yn y wlad. Ciliasai y gogoniant o'r deml, a throisid nefoedd yn bres gan wyneb-galedwch y ddaear. Nid oedd dy cwrdd i'w gael. Ni pheraroglid yr awyrgylch gan offrymau yr un allor deuluaidd. Nid oedd cwrdd gweddi, cyfeillach grefyddol, nac Ysgol Sabbothol mewn bod.



XII. JOHN ELIAS.

O brif areithiwr! fu'n daniwr dynion;
Ei wlad a alwodd at lu duwiolion;
O'i hir oferedd, a'i gwag arferion,
Efe a'i dygodd at Nef a'i digon;
AC ELIAS, was Duw lôn,-fawrygir,
Ei enw gofir yn hwy nag Arfon.