XIII. RHAG-GYFEILLACH.
Dylai rhieni hyfforddi eu plant pa fodd i ymddwyn. Ni ddylent
eu hatal, a'u bwgwth, a'u herlid, fel y gwneir yn aml. Dylent
ddysgu iddynt nad yw y fath gyfeillach ond oferedd profedigaethus
hyd nes y byddo ganddynt ryw olwg am fywioliaeth. Pan y byddo
hynny, ni ddylid taflu un rhwystr ar eu ffordd. Bydded rhieni mor
resymol fel y gallo eu plant roddi ymddiried ynddynt. Y mae llawer
dyn ieuanc, yr hwn ni phrynnai fuwch heb farn ei dad, yn rhuthro
i ddewis gwraig heb ofyn ei gyngor ac heb wybod iddo, os geill.
Mae llawer merch ieuanc, yr hon ni phrynnai gap heb gyfarwyddyd ei
mam, yn dewis gwr heb roddi iddi yr awgrym lleiaf. Trwy hyn
ymddifadir y plant o bwyll, a phrofiad, a chydymdeimlad eu rhieni.
Hawdd i bobl siarad am gariad, a serch, a dewisiad, a rhes gyhyd a
braich o eiriau anwyl fel yna. Ond hwy a gânt weled fod ychydig
bwyll a doethineb yn beth tra dymunol wrth briodi, a lled anfynych
y maent hwy eu hunain yn meddu digon o'r cymhwysderau hyn ar
y pryd.
XIV. DAFYDD IONAWR A WILLIAMS PANT Y CELYN.
Nid ydym am honni mai bardd y Drindod fu y mwyaf defnyddiol o feirdd Cymru. Na, o ran defnyddioldeb, y mae William Williams, o Bant y Celyn, fel angel yn ehedeg yng nghanol y nef, mewn cymhariaeth i bawb arall. Yn anffodus, dewisodd Dafydd Ionawr ymddilladu mewn gwisg a'i caua am byth o'r cysegr. Ymdrwsiodd Williams yn ei wisgoedd offeiriadol, a chyneuodd dân ar allor Duw, yr hwn na ddiffoddir yn ei ffurf ddaearol nes y diffydd y marworyn olaf o ddaear a chreigiau Cymru yn y goddaith cyffredinol. Parha Dafydd Ionawr yn "Fardd Teulu" i'r coeth, y llenydd, a'r doethwr Cristionogol, tra y pery yr iaith; ond a Williams i mewn ac allan o flaen y bobl. Bloesg-lefara babanod ei odlau, cenir hwynt yn y