Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gynulleidfa fawr, a siriolir gly n cysgod angeu â'u cerddoriaeth. Fel bardd awenyddol, dichon ei fod goruwch Dafydd Ionawr; ond yr oedd yn amddifad o'i rymusder a'i gyflawnder, ac yn anhraethol. islaw iddo fel celfyddydwr llenoraidd. Nid ydym yn gwneud y sylwadau hyn er iselu Dafydd Ionawr, ond yr ydym yn eu cynnyg fel teyrnged gyfiawn i athrylith a chymeriad Peraidd Ganiedydd Cymru, enw yr hwn ni welir yn fynych ymysg cof-lyfrau brawdoliaeth y beirdd. Er ei holl wallau llenyddol, y mae ei "Olwg ar Deyrnas Crist" yn gydymaith teilwng i "Gywydd y Drindod."




XV. DULLIAU PREGETHWYR.

Yr oedd meddyliau John Foster yn ogoneddus, yr oedd ei iaith yn goethedig i'r eithaf, ond yr oedd ei bregethau yn gwaghau yr addoldai-nid oedd yn effeithiol. Yr oedd Robert Hall yn rhesu. meddyliau gorwych, yn eu gwisgo mewn iaith ysblenydd, ac yn effeithio ar gynulleidfaoedd deallus. Ni feddyliodd neb erioed fwy na Foster; nid mynych y gwnaeth neb lai. Gall meddyliau gor- uchel gael eu gwisgo mewn iaith wael, a gwnaed hynny gan Williams o'r Wern, ond yr oedd y traddodiad yn effeithiol. Gall iaith chwyddedig gael ei rhaffu allan, fel y gwneir gan ŵr enwog sydd ar dir y byw, nes y synnir, ond ni theimlir. Gwisgai John Elias feddyl- iau canolig mewn iaith bur a grymus, ond coroníd y cyfan gan ei draddodiad. Y mae Mr. Williams[1] yn debycach i Robert Hall nag i un o'r rhai a nodasom. Wrth gwrs yr ydym yn cofio fod Hall yn ysgolhaig manwl a chywrain, wedi darllen gweithiau prif areithwyr a beirdd y byd, ac wedi mabwysiadu eu tlysau yn eiddo iddo ei hun. Yn amgylchiadau Robert Hall, buasai Mr. Williams yn debyg iawn iddo, er y buasai yn amddifad o'i allucedd gwawdlym. Nid allai Mr. Williams ddywedyd dim ond "dyn bychan," gallasai Robert Hall ddywedyd, "Gellid rhoddi ei enaid mewn plisgyn cneuen, ac er

  1. Williams Llanwrtyd.