Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hynny ymgripiai oddiyno drwy dwll y gwyfyn." Ni allai Mr. Williams ond dywedyd wrth ddadleuydd cecrus, "Nid ydych yn gweled, frawd;" ond ysgrifenasai Hall y gair Duw ar dipyn o bapyr, gan ofyn iddo a oedd yn gweled hwnnw; ac wedi derbyn ateb cadarnhaol, buasai yn gosod penadur arno, ac yn gadael y gŵr da i'w fyfyrdodau. Y mae meddyliau Mr. Williams yn goethedig, ei frawddegau yn llawn ac ymchwyddawl, fel rhediad afon fawreddog, a gwneir i chwi gredu fod y pregethwr yn teimlo ei hunan. Dywedir gan rai nad yw yn dangos digon ar ei berlau i'w wrandawyr; os. gwir hyn, nid eu prinder, ond eu gorlawnder yw yr achos o hynny. Nid un neu ddau o feddyliau sydd ganddo ef i'w dangos yn ei bregeth, ond y maent yn lluaws. Yr oedd Dr. Chalmers yn ymaflyd mewn un meddwl, ac yn ei ddilyn drwy y greadigaeth; yn edrych arno o bob man, ac yn tremio ar ei holl rannau. Nid ydym yn bwriadu ymyrryd â'r ddadl pa un yw y goreu. Meddyliem y rhaid ei fod yn boenus i ddyn ymwybodol o deilyngdod ei feddylddrychau, gymeryd gafael ynddynt y naill ar ol y llall, a dywedyd wrth y gynulleidfa, Welwch chwi mor dlws yw y meddwl yma?" ac am y llall, Edrychwch ar brydferthwch hwn." Pan oeddym yn ieuanc, yr oedd gan berthynas i ni oriawr, yr hon oedd y gyntaf a welsom erioed. Byddai yn arfer ei dangos i ni—y cefn, a'r wyneb, a'r bysedd, ac yn ei dodi wrth ein clust er mwyn i ni ei chlywed yn tipian. Yr oedd honno yn ffordd dda gyda phlentyn, ond nid oes ei hangen—o'r hyn lleiaf ni ddylai fod—ar bobl mewn oed.




XVI. Y MOR FORE'R ADGYFODIAD.

Mewn eigionau mae, rhwng creigiau,
Yn nyfnderau muriau môr,
Ystafellau, boddiad oesau,
Dan fynorol, ddyfrol ddôr;
Ysgafn donnau, gwyrdd eu lliwiau,
Dawnsiant donau uwch eu pen,