Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ym mhelydrau haul y borau,
Dan weniadau nodau nen;
Gwena Angau ar y cellau,
Fel ei hawliau ef ei hun ;
Ond, mewn munud,—difrif arswyd—
Pawb ddeffroir o'u cysglyd hun.

Tonnau tawel, is yr awel,
Gwyd yn uchel gad yn awr,
Yn derfysglyd dorf wreichionllyd,
Eistedd arswyd ar eu gwawr;
Dryllir bolltau hen ogofau,
O'u crombiliau oll yn rhydd,
Caethion Angau ddont yn rhengau,
Allan o bob cellau cudd;
Wyla yntau ar eu holau.
Halltach dagrau nag un don;
Gweld eu codiad sydd drywaniad,
Ingol frathiad, yn ei fron.






XVII. PA LE Y MAE?

Yn ystod anrhaith y pla yng Nghaerefrog Newydd, ym mis Gorffennaf, 1849. gwelid dynes ieuanc anffodus yn llawn o brysurdeb cymwynasgar yng nghladdle y meirwon. Ei gorchwyl oedd taenu. dail a blodau ar hyd y beddau, a chanu tonau gwylltion a phruddaidd yn eu mysg. Yr oedd, yn ol pob ymddangosiad, wedi hollol golli ei synwyrau, ac, fel y cyfryw, cydymdeimlid å hi yn ddwys gan bawb a'i gwelent. O'r diwedd, collwyd hi o'r ddinas ac o'r gladdfa, ac ni wyddai neb pa beth a ddaeth o honi. Yr oll a gafwyd o'i hanes sydd fel y canlyn.—O gylch pedair blynedd yn flaenorol, tiriodd hi a'i brawd yng Nghaerefrog. Ymadawsant yn fuan ar ol hynny yn Rochester, tref yn y dalaeth honno, drwy iddo ef ymuno