Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r fyddin, a myned i Ryfel Mexico. Ni chlywodd ei brawd ond unwaith oddiwrthi ar ol hyn, ac yr oedd y pryd hwnnw yng Nghaerefrog, ac yn caru dyn ieuanc o'r enw John Weber. Gan mai Catherine Weber oedd yr enw wrth yr hwn ei hadwaenid yn y gladdfa, casglai ei brawd iddynt briodi, ond ni wyddai neb yno pa beth a ddaethai o'i gŵr. Yr oedd hi yn enedigol o Wompen Noof, Foernstrou, yn Bavaria. Pan gyrhaeddodd ei brawd i Gaerefrog, ar ol gadael y fyddin, ni allai gael dim o'i hanes, ond yr hyn a nodwyd. Nid oedd ganddo ond gofyn PA LE Y MAE, heb neb, ysywaeth, i adrodd iddo helyntion ei chwaer. Mae yr amgylchiad ynddo ei hun mor bruddaidd a chyffrous, fel y mae yn anhawdd peidio a theimlo wrth ei ddarllen.

Pa le y mae? A yw ei chân
Yn deffro eto gyda'r wawr?
A ydyw y gorffwyllog dân
O'í mewn yn llosgi hyd yn awr?
O blith y meirwon collwyd hi,
Darfyddodd sain ei thonau gwae,
Distawodd ei dolefus gri,
Oes neb a wyr pa le y mae?

Nid ydyw yn Bavaria hen,
Yn chwareu fel ei gwelwyd gynt,
Pan oedd ei hwyneb oll yn wên,
A'i chalon fel yr ysgafn wynt;
Nid yw yn chwareu gyda'i brawd,
Yn ymyl ffynon cwr y cae,
Ond crwydra hi yn estron tlawd
Os neb a wyr pa le y mae?

Pa le y mae? Nid ydyw hi
Yn croesi dulas lif y don;
Pan nad oedd ar ei gwefus gri,
Na phoenus archoll is ei bron;
Nid yw yn sefyll gyda'i brawd,
Gan ddeisyf arno'n daer nad ae
I waedlyd ryfel, tost ei ffawd,
Oes neb a wyr pa le y mae?