![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/be/Y_T%C5%B7_Croes_%28Ieuan_Gwynedd%29.jpg/600px-Y_T%C5%B7_Croes_%28Ieuan_Gwynedd%29.jpg)
RHAGAIR.
Nid oes odid fywyd, yn holl hanes bechgyn ieuainc Cymru, mor llawn o wersi ì wyr ieuainc yr oes hon â bywyd Ieuan Gwynedd. Yn ei egni dros Dduw a Chymru, trwy dlodi ac afiechyd a hiraeth a dioddef, y mae yn fywyd na ddylai'r Cymry byth anghofio am dano. Ei roi yn fyw o flaen yr oes hon, ar gyfer canrif newydd, yw amcan y pigion hyn o eiriau Ieuan ei hun. Rhodder pob parch i gof ei fywgraffydd ffyddlon,—Robert Oliver Rees o Ddolgellau,— yr hwn a roddodd i Ieuan anfarwoldeb ym meddwl Cymru trwy eì ddarluniadau manwl o'i fywyd a'i waith.
Ganwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd), ym Mryn Tynoriad, ar ochr y Garneddwen, Meirion, Medi 5, 1820. Yn y Ty Croes, chydig yn is i lawr i gyfeiriad Dolgellau, y treuliodd ei febyd. Yn 1837 trodd oddicartref i gadw ysgol; dechreuodd bregethu