Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn 1838. O'r ysgol ym Marton aeth i Goleg Aberhonddu. Ym Mehefin 1845 ymsefydlodd yn Nhredegar. Priododd Catherine Sankey, o sir Amwythig, tra yno; bu farw ei wraig a'i blentyn. Diflannodd ei iechyd, gadawodd ei eglwys, ymroddodd i lenyddiaeth. Gloewodd ei ffurfafen ychydig drachefn; bu yn golygu papyr yn Llundain; ymbriododd â Rachel Lewis, o Dredwstan. Ond collodd ei iechyd eto, a daeth i Forgannwg yn ol. Bu farw ei fam yn 1849. Bu yntau farw fore Chwefrol 23, 1852, yn 31 oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Groes Wen.

Carodd Gymru â chariad angerddol,—y mae ei weithiau, ei GYMRAES, a'i ADOLYGYDD eto gennym. Arhosed ei ysbryd yn gwmni i fechgyn Cymru tra'r dŵr yn rhedeg rhwng ei mynyddoedd.

BRYN TYNORIAD.