Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ei chân ni bydd orffwyllog lef,
Ni thafl ei llygad ddibwyll wawl ;
Ei phryd fydd lawn o harddwch Nef,
A'i llais yn adsain llysoedd mawl,






XVIII. ANERCHIAD YMADAWOL I EGLWYS SARON, TREDEGAR.




(Adroddwyd yng Nghapel Saron, Ion. 9fed, 1848).

"Gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi a'r meirw ac a minnau."—RUTH i. 8. Mae y byd hwn yn llawn o ddirgelwch. Annichonadwy cael golwg glir a gwastad ar yrfa dyn drwyddo. Cauir ei ffyrdd â drain, a murir ei lwybrau à cherrig nadd, nes ydyw yn fynych yn gorfod cymeryd ei holl ymdaith "ar hyd ffordd ddisathr." Nid eiddo gwr ei ffordd, oblegid mynych yr ydym yn cael cynlluniau teg yn cael eu tynnu, a ffyrdd esmwyth, gwastad, a dymunol yn cael eu llinellu; ond buan yr ydym yn eu gweled yn llawn o bydewau, y cerrig geirwon wedi eu gorlanw, a holl wyrddlesni eu hymylau wedi diflannu. Nid oes gennym yn fynych ond synnu oblegid ein siomedigaeth, a wylo y deigryn chwerw uwchben ein gofid. Paham y mae amgylchiadau yn troi allan mor groes i'n dysgwyliadau sydd wybodaeth ry ryfedd i ni; uchel yw, ac ni fedrwn oddiwrthi. Nid oes gennym ond tewi, gan ddywedyd, "Tydi, Arglwydd, a wnaethost hyn," a disgwyl yn ddistaw hyd ddydd dadguddiad y dirgelion.

Pobl ryfeddol oedd yr Iddewon. Arweiniwyd hwy dan ofal neillduol, ac yn llaw Duw ei hun, am lawer cant o flynyddoedd. Gosododd elfennau natur yn fyddinoedd cedyrn o'u plaid, ac amddiffynnodd hwy â nerthoedd y nefoedd. Efe a'u cafodd mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag, erchyll; arweiniodd hwynt o