Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amgylch a pharodd iddynt ddeall, a chadwodd hwynt fel canwyll ei lygad. Efe ydoedd tarían eu cynorthwy, a chleddyf eu hardderch— awgrwydd. Yr oedd eu gwlad hefyd yn rhyfeddol. Eiddo hi oedd hyfrydwch y ddaear, hyfrydwch cynnyrch yr haul, a hyfrydwch addfed ffrwyth y lleuadau. Arni hi y defnynai bendithion y nefoedd fel yr ir—wlaw tyner. Hi ydoedd tegwch bro, a llawenydd bryn, a gogoniant yr holl ddaear. Ond nid oedd ei therfynau yn rhydd. oddiwrth ofid, na'i phreswylwyr yn ddiogel rhag blinder. Cawn eglurhad o hyn yn y bennod gyntaf yn llyfr Ruth. Daeth newyn i'r wlad, ac aeth Elimelech, gŵr o Bethlehem—juda, a'i deulu, i ymdaith i dir Moab. Dyma fel y mae dynion yn gyffredin: pan dywylla arnynt mewn un man, rhoddant gynnyg ar le arall, er na wyddant yr hyn a'u herys yno. Yn yr ystod byr o ddeng mlynedd, bu farw Elimelech; priododd ei ddau fab, a buant feirw. Ní bu eu heinioes. ond megis cysgod yn cilio. Diflannodd eu nerth; ebrwydd y darfu, a hwy a ehedasant ymaith. Gwnaeth yr Arglwydd yn chwerw â'r weddw Naomi. Aeth i dir Moab yn gyflawn, ond dychwelodd yn wag.

Er fod Rhagluniaeth yn aml yn chwerw iawn yn ei throion, eto anfynych, os byth, y gellir nodi dyn, os bydd yn y mwynhad o'i reswm, wedi ei wneud yn hollol, drwyadl, anadferadwy druenus yn y fuchedd hon. Anfynych y gwelir pob defnyn o gysur wedi ei atal,—pob mymryn o drugaredd wedi ei golli,—pob gwawr o obaith wedi darfod,—pob llais caredig wedi ei ddistewi,—y galon oll yn archolledig, heb un dafn o falm yn cael ei dywallt iddi,—pob deigryn tosturiol wedi ei sychu,—y ddaear wedi myned yn gallestr dan draed, a'r nefoedd yn bres uwchben. Nid felly y mae. Yng nghanol yr ystorm chwerwaf, gynddeiriocaf, pan yr ydym yn dueddol i feddwl fod y ddaear dan ein traed yn ymsiglo fel meddwyn, ac yn ymsymud fel bwth; a phan yr ydym yn barod i gredu fod y nefoedd a'i holl luoedd yn myned heibio gyda thwrf; eto, os gallwn feddiannu ein hunain am ychydig funudau, gallwn weled fod daioni a thrugaredd wedi ein cylchynu holl ddyddiau ein heinioes. Pan mewn llewyg ar lawr, a'n cnawd a'n calon wedi pallu,—ein pen oll yn glwyfus a'n calon yn llesg.—yn yr adeg ddu, drymllyd 'honno, "ei law aswy sydd dan ein pen, a'i ddeheulaw yn ein cofleidio."

Felly y bu gyda Naomi. Gwelodd lygad ei gŵr yn cau yn yr angeu, rhwygwyd holl ffynonau tynerwch yn ei mynwes, a dylifodd ffrydiau o alar dros ei gruddiau. Gadawyd hi yn wraig weddw. Mae y weddw yn wrthddrych a ddylai dderbyn tynerwch mawr, o