Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y mae ein natur yn ymdebygu mwyaf i Dduw, canys "Duw cariad yw."

Dyben y sylwadau blaenorol ydyw dangos nad ydyw Duw, yn yr amgylchiadau chwerwaf a mwyaf trymllyd, yn ein rhoddi i fyny, nac yn ein llwyr adael. Y mae yn rhoddi achosion canu yn y nos. Y mae yn tueddu rhyw galonau tyner i wneyd trugaredd "a'r meirw ac à minau" yn wastadol.

Tair blynedd i'r Sabbath nesaf y safwn yn "y lle ofnadwy hwn " am y waith gyntaf ar brawf, fel person tebygol o ymsefydlu yn eich mysg. Mor gyflawn ydyw y tair blynedd hyn wedi bod o ddygwyddiadau pwysig i chwi a minau. Y fath fywyd ydwyf wedi ei fyw yn yr amser byr hwn, neu, yn wir, yn y cylch byrrach o ddwy flynedd a dau fis. O ran fy nghysylltiad â'r eglwys, tebyg na chafodd neb mewn tair blynedd lai o achos gofid; mewn cysylltiadau eraill mwy cyhoeddus, mae fy llwybr wedi bod mor esmwyth a blodeuog ag y gellid dymuno iddo fod, ac yn llawer mwy felly nag y gallesid ei ddisgwyl. Ac er fod y cymylau wedi bod yn dduon iawn, a'r dymhest! frochus wedi rhuo yn ddychrynadwy, gan ysgubo fy holl drysorau daearol, nes y gallwn daywedyd, Myfi fy hun yn unig a adawyd;" eto, y mae llawer pelydr hyfryd ac adfywiol o oleuni wedi llewyrchu ar fy llwybr dyrys a thrymllyd, nes " troi cysgod angeu yn oleu dydd."

Yn awr, gyfeillion hoff, yr ydwyf yn sefyll ger eich bron am y tro diweddaf. Nid oes genyf amser i'w dreulio, na nerth i siarad heno; canys fy nerth a ballodd ynnof. Wedi ymdrechu yn galed âg afiechyd am un mis ar bymtheg, yr wyf yn cilio o'r ymdrech. Heb fod erioed yn gryf—bron bob amser"wedi fy mwrw i lawr, ond eto heb fy nifetha," y mae cystuddiau personol a theuluaidd, a gofid meddwl, o'r diwedd wedi cael y goreu arnaf. Nis gallaf sefyll mwyach o flaen arch Duw. Y mae arwain y bobl wedi dyfod yn waith rhy drwm i mi. Nis gallaf ddal fy sefyllfa bresennol yn hwy heb wneud cam â'r achos. Yr ydwyf, gan hynny, fel gweinidog Duw, yn gwylaidd a gostyngedig ymddiosg o wisgoedd fy swydd, ac yn cilio o'r neilldu er rhoddi lle i ryw frawd teilwng arall i ddyfod yn olygwr ar y praidd hyn—ar "eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed."

Ni feddylia neb o honoch sydd yn fy adnabod, fy mod yn gwneuthur hyn heb ddirfawr ofid calon. Yma—a chydag amgylchiadau cysylltiedig â'r lle hwn—y mae holl serch fy mynwes, a holl deimladau fy enaid, wedi ymblethu Yma y dechreuais fy