ngweinidogaeth, yma yr cedd fy meddwl yn gwneyd ei gartref dro ei fywyd, —yma yr oeddwn yn ffurfio cyfeillgarwch, ac yn dewis. cyfeillion,—yma y llawenychais â llawenydd priodfab,— yma y treuliais ddyddiau a misoedd o ddedwyddwch, y rhai na threuliais o'r blaen, ac na threuliaf byth mwyach eu cyffelyb,—yma y clywodd fy nghlustiau y geiriau,— "Ganwyd i ti fab," ac yr edrychodd fy llygaid ar fy nghyntafanedig,—yma y profais deimladau priodfab, priod, a thad, yn eithafion eu dwysder, ac yn nyfnderau tynerwch, yma y dilynais fy maban i'r bedd, gwelais y blodeuyn yn cau cyn bron dechreu agor, ac yn prysur gilio yn ol cyn braidd iddo roddi ei droed dros drothwy y ddaear,—yma y dadwinodd fy llygaid a'm henaid gan ofid wrth weled hyfrydwch fy nghalon, a dymuniad fy llygaid, yn gwywo o fy mlaen,—am fod cyntafanedig angeu yn bwyta ei chryfder, ac wrth edrych ar frenin dychryniadau yn araf ddynesu ati am bump o fisoedd hirfeithion, a hithau, fel seren y bore, o'r diwedd, yn diffodd yn y goleuni,— yma y teimlais yr ergyd a'm gwnaeth yn alltud ar fy aelwyd fy hun, yn estron yn mysg cyfeillion, ac yn ddieithr—ddyn ar y ddaear,—yma y gorwedd, yn mhriddellau oer marwolaeth, y gweddillion anwyl yn y rhai yr ymhoffais gynt,— yma yr hyderais y buaswn yn cael cydorwedd â hwy i aros yr adgyfodiad gwell.—yma hefyd y mae i mi gyfeillion anwyl, y rhai y mae gennyf feddwl cryf am eu cyfarfod yn y Nefoedd,—ac yma "y gwnaed trugaredd â mi ac â'r meirw;" ond pan y mae Duw yn llefaru, nid oes gan ddyn ond tewi. "Pwy a uniona yr hyn a gamodd efe?" Ni wyddom beth fydd y canlyniad o hyn. Anichonadwy i ni dreiddio drwy leni amser dyfodol: y mae hwnnw oll yn guddiedig, ac nid oes gennym ond disgwyl mewn amynedd am esboniad ar yr hyn sydd eto yn dywyll. Hyd yn hyn y mae fy ngyrfa wedi bod mor holloi groes i'r hyn a allesid ddisgwyl, fel nad yw ond ofer anturio dyfalu pa beth a ddaw o honof. Ond deued a ddelo, y mae un cysur: mae y llaw sydd yn dal y llyw yn cael ei hysgogi gan ddoethineb anghyfeiliornadwy. "Myfi a wn y dygi fi i'r bedd, ac i'r ty rhagderfynedig i bob dyn byw;" ac er na wn yr amser, gwn fod yr Hwn a'i gwna yn gwneud pob peth yn dda." Ein dyledswydd ni yw ymostwng, a rhodio yn ostyngedig ger ei fron.
Diau fod ar eglwysi ddyledswydd o ddarparu ar gyfer eu gweinidogion mewn cystudd; ond lle y gwneir hyny gyda sirioldeb serchiadol, heb air o gymhell, nid oes eisieu son am dani, ac y mae genyf i'w ddywedyd am danoch chwi yn Saron, fel eglwys, eich bod wedi