Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwneyd hyn gyda serchawgrwydd rhieni a thynerwch perthynasau. Nid adawsoch arnaf eisieu dim. Dangosasoch ofal teilwng o'i efelychu, a serch y byddai yn werth i lawer ymdrechu ei gyrraedd a'i arferyd. Am hynny, "gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw ac â minnau." Dyma fi yn myned, ond yr ydwyf yn gadael y gwirionedd a bregethais ar ol. Derfydd adlais fy llais egwan yn fuan, anghofir ei swn; ond yr hyn a gyhoeddais, y mae nerth bywyd anherfynol ynddo. Rhua tymhestloedd y gauaf, a marchog y dymhestl mewn cynddaredd, ond ni ddistewir hwn.

Yn iach, weddillion cysegredig, gorweddwch yna yn dawel hyd fore yr ail-uno. Yn iach, hen ac ieuainc, un ac oll. Yn iach, gyfeillion fy enaid, a brodyr fy nghalon. "Gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, megis y gwnaethoch chwi â'r meirw ac â minnau."




XIX. DARN O DDYDDLYFR.

Bum gynt yn yr arferiad o gadw dyddiaduron. Ysgrifennwn ynddynt rywbeth bron bob dydd, ond yr oeddynt bron oll mewn Saesoneg. Yn lled agos i amser fy mhriodas gadewais hyn heibio, ac nid oes yn awr ddim wedi ysgrifennu yn rheolaidd iawn er ys tua thair blynedd. Adegau pwysig yn fy mywyd oedd y blynyddoedd hyn, ond y maent yn awr wedi myned heibio. Dichon y caf hamdden rywbryd i ysgrifennu ychydig nodau draw ac yma i'w gosod i fyny fel meini cof am danynt. Profais ynddynt felusder bywyd a chwerwder marwolaeth. Bu blodau gobaith yn hyfryd yn aml, ac yn llawn o berarogl; ond difawyd hwynt oll gan y tymhestloedd duon. Ni theimla neb arall fawr o ddyddordeb ynddynt, ond y maent yn bethau anwyl i mi fy hun. Gallaf ddweyd mai eiddo fi wely cystudd, glyn cysgod angau, ac iselder y bedd. Maent oll wedi eu cysegru á fy nagrau a'm hocheneidiau.

Sefydlais yn Nhredegar yn Meh. 1845. Urddwyd fi y dyddiau olaf o Orffennaf yn y flwyddyn honno. Priodais ar y 14 o Dachwedd â Catherine, trydedd ferch Mr. John Sankey, o Rorrington Hall, swydd yr Amwythig. Merch gall, hawddgar, a duwiol nodedig ydoedd. Pan briodasom yr oedd mewn iechyd da ac yn gryf a nerthol, fel y mae merched ieuanc sydd wedi byw yn y wlad yn arferol bod. Buom byw am yn agos i un mis'ar ddeg yn ddedwydd iawn.

Yn ystod yr amser hwn ganwyd i ni fab bychan. Ymhen pum