retary of Peace Society, and will dine with him on Monday. I have found out several of the Welsh people here, and my admiration of everything Welsh is continually increasing.
Nov. 14.-Two years to-day I was very ill. This time twelvemonths my mind was much depressed at the prospect of leaving Tredegar; but to-day, I write standing as it were on the ruins of a former existence, and just commencing to raise a new fabric. Such is the lapse of time. It goes. It heals wounds which nothing else could touch. May the Lord enable me to live that my deeds may remain and follow me as a cloud of witnesses to prove that I have not altogether lived in vain.
Hyd. 22, 1848.—Ai Sabboth yw hi? Sabboth yn Llundain!
Lle dieithr a rhyfedd i mi; ond dyma fi yn awr yn terfynu fy ail Sabboth yma; ymhell o wlad fy nhadau, ynghanol pobl o bob llwyth ac iaith a chenedl. Wele fi yn awr yn unig mewn ystafell yn ysgrifennu y llinellau hyn. Mae un ganwyll wedi myned allan a'r llall bron ar fyned. Mor debyg i hyn oedd arnaf ddwy flynedd yn ol! A byth ni anghofiaf yr amser. Eto rhaid i mi fyw. Ac yr wyf am hynny yn penderfynu ail briodi. A gweled Duw yn dda i mi gael bod mor ddedwydd ag yr oeddwn o'r blaen! Gwn fod fy anwireddau yn fy ngosod bron tu draw i derfynau daioni a thrugaredd, ond "os creffi ar anwiredd, O Arglwydd, pwy a saif?"
Hyd. 29.—Y mae wythnos arall wedi ymlithro, a dyma fi wedi cyrraedd yn ddiangol i'w diwedd. Mae y trydydd Sabboth yn Llundain wedi ei dreulio, a'r ychydig linellau hyn yn cael eu gosod i lawr er cyfodi un yn rhagor o gyfarwyddion daioni a thrugaredd. Dyma un Ebenezer eto yn gyflwynedig i Dduw.
Yn gyflwynedig i Dduw! Y fath feddwl! Mor anhawdd i feidr- oldeb y creadur agoshau at Anfeidroldeb y Creawdwr! Addoli Duw, ofni Duw, caru Duw, mor anhawdd i'r pechadur wneyd hyn. Mor sobr meddwl am ddynesu at orsedd yr Ysbryd Tragwyddol, y bod di-gread, a'r llywydd mawr di-newid! Dychryn sydd yn dyfod arnaf yn fynych wrth feddwl am dano. Un o ddirgelion. dyrys fy nyddiau ieuangaf oedd tragwyddoldeb, yn ystod di-ddechreu a'i hyd di-ddiwedd! Bum lawer gwaith yn meddwl am dano pan yn chwech, saith, ac wyth oed nes arswydo, a phrysuro fy nghamrau ar y ffordd. Y mae argraff rymus ar fy meddwl hyd heddyw am ryw dro yr oeddwn yn meddwl am y parhad dihaniad wrth y dderwen fawr, yn ymyl y Bont Newydd, ger ty fy nhad a mam. Sefais uwch ei ben nes brawychu ac arswydo a chrynnu.