Y mae yn awr dros ugain mlynedd wedi myned heibio er hynny. Yr wyf wedi meddwl am lawer o bethau ar ol hynny, ond y mae y tragwyddoldeb di-ddechreu a di-ddiwedd yn parhau yn wybodaeth ry ryfedd i mi. Uchel yw, ni fedraf oddiwrthi; nid oes gennyf ond edrych nes y mae fy llygaid yn dallu, a chodi fy ngolwg mewn cryndod a braw at y Duw Mawr. Ond y fath anfeidroldeb sydd yn ei amgylchu! Mae yn trigo yn y goleuni, yn ysgogi pob peth, ac yn canfod pob dim. Ei air ydyw anadl y pryfyn, ac y mae llygaid angel yn rhy egwan i'w ganfod; a'i lais ydyw y daran sydd yn siglo colofnau y ddaear. O am ysbryd i blygu mewn gostyngeiddrwydd wrth ei draed! O am feddwl i ymarfer ag ef, ac i ystyried am dano, nes y bydd y goleuni yn gwanhau mewn tiriondeb, y pellder yn darfod mewn agosrwydd, a'r uchelder anfeidrol yn ymostwng mewn cymdeithas!
Tachwedd 26.—Dyma Sabboth olaf mis Tachwedd. Buan y daw Sabboth olaf y flwyddyn; a buan y daw Sabboth olaf yr oes. Yr oeddwn yn meddwl heno wrth ddyfod o'r cwrdd am y byd di-Sabboth. Mor druenns ydyw yr olwg ar y rhai nad ydynt yn cadw y Sabboth! Perffeithrwydd daioni y ddaear fydd y nefoedd. Perffeithrwydd trueni y byd fydd uffern. Mor ddirfawr yw rhwymau y byd i Dduw am y Sabboth! Buasai yn druenus iawn hebddo. Sabboth di-derfyn fydd y nefoedd. Byd y dedwyddwch di-ddiwedd fydd gwlad y goleuni. Byd di-seibiant fydd uffern. Felly y darlunnir ef yn y Beibl ac felly y bydd. Ni chant orffwysdra ddydd na nos yn oes oesoedd. Bydd egwyddorion drwg wedi cyrraedd eu llawn dwf. Bydd holl gronfil drygioni yn ymdywallt yn ddiarbed Bydd yn rhyferthwy tragwyddol yn ymdywallt am byth. Yno y bydd y meddwl drwg yn ymdreiglo yn rhwydau ei ddrygioni. Y galon yma ydyw ffynhonell pob drwg. Boddheir ei nwydau dychrynllyd yma drwy gyfrwng synhwyrau y corff. Ond yng ngwlad y gwae ni bydd modd eu boddhau. Bydd holl foddion boddhad chwant wedi eu dihysbyddu, ac yna chwant pan orffenner a esgor ar farwolaeth. Marwolaeth ydyw eithafion dioddefaint y ddaear. Marwolaeth enaid fydd bustl a wermod di-gymysg y trueni. Pregethodd Mr. Williams yn y boreu ar foddlonrwydd, ac yn yr hwyr ar deyrnas Crist yn ei dechreuad a'i chynnydd.
Rhag. 31.—Sabboth olaf un o flwyddyn ryfeddaf y ddaear,— rhyfedd i mi, rhyfedd i bawb, a rhyfedd i'r byd. Dyma hi ar ben. A dyma finnau yn ddedwydd iawn. Parhaed Duw yn ei ras a'i wenau, a bydd gennyf achos llawenhau a diolch.