Hysbysir fi gan y beirniad arall, sef y Parch. J. Bowen Jones, B.A., LI.D., Brecon, y dywedwyd wrtho gan ysgrifennydd yr Eisteddfod mai nid Bywgraffiad, ond Traethawd a geisiai y pwyllgor; a chan nad oedd yn cydweled â'i gyd feirniad, Mr Ellis, am deilyngdod cymhariaethol y ddau "Draethawd," rhannwyd y wobr rhyngddynt. Dymuna yntau hefyd i mi gyhoeddi fy Mywgraffiad ar bob cyfrif.
Bellach, dyma'r llyfr yn nwylaw y darllenydd. Ysgrifennais ef am fy mod yn mawr edmygu cymeriad disglair y gwrthrych, ac yn cydymdeimlo yn ddwfn â'r egwyddorion hynny y treuliodd ei oes i'w hamddiffyn. Credwyf nad oes neb a ddadleuodd fwy dros gymeriad a hawliau gwladwriaethol a chrefyddol y Cymry, yn y Senedd a thrwy y Wasg, nag a wnaeth Mr Richard; ac yr wyf wedi ceisio rhoi hanes mor fanwl a helaeth ag y goddefai fy nherfynau o'i lafur di-ball yn y cyfeiriadau hyn. Ond rhoddais le arbennig i'w syniadau a'i ymdrechion yn achos Heddwch am fy mod yn credu mai dyma waith pwysicaf ei fywyd, a bod ei syniadau ar y mater hwn heb gael y cyfryw sylw gan fy nghydgenedl ag a haeddant. Gan fod Mr Richard wedi astudio y pwnc hwn yn drwyadl, a'i fod yn teimlo yn ddwys mewn perthynas iddo, credwyf y carasai iddo gael lle arbennig yn hanes ei fywyd. Heblaw hynny, mae yr ysbryd rhyfelgar sydd wedi meddiannu ein gwlad yn ddiweddar yn galw yn uchel ar fod syniadau neilltuol Mr. Richard ar y pwnc o Heddwch yn cael ystyriaeth ddifrifolaf gwladweinwyr a Christionogion yn gyffredinol. Os â theyrnas Prydain ymlaen gyda'i darpariadau milwrol yn y dyfodol, gyda'r un cyflymdra ag yn y gorffennol, bydd ei ffyniant mewn perygl.
I'r graddau y bydd cyhoeddiad y llyfr hwn yn effeithio i argraffu ar feddwl fy nghydgenedl yr egwyddorion mawrion bu Mr. Richard mor ddiwyd a dewr yn dadleu drostynt, bydd wedi cyrraedd ei amcan. Dymuniad fy nghalon yw y tuedda i ryw fesur i hyrwyddo dyfodiad y dyddiau hynny pan y gwna Efe i "ryfeloedd beidio hyd eithaf ddaear," ac y "dryllia'r bwa ac y tyr y waywffon," ac y Llysg y cerbydau â thân." Pe deffroid holl eglwysi Cred i synied a gweithio fel y gwnaeth Mr. Richard, buan y gwelid y dyddiau dedwydd hynny yn gwawrio. ELEAZAR ROBERTS.
Hoylake, Medi, 1902.