Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT Y DARLLENNYDD

WRTH feddwl am enwogrwydd ein cydwladwr, y diweddar Henry Richard, A.S., a'r gwaith mawr a gyflawnodd yn ei oes, bum yn gresynu yn fynych na buasai gennym Fywgraffiad cyflawn o hono yn yr iaith Gymraeg; a theimlais awydd ar brydiau i anturio cyflenwi y diffyg hwn fy hunan, a gwnaethum rai darpariadau ar gyfer hynny. Pan welais fod "Bywyd a Gwaith y diweddar Henry Richard, A.S.," i fod yn destyn "Traethawd" yn Eisteddfod Merthyr, 1901, ymeflais yu y gorchwyl o ddifrif; cwblheais y gwaith, ac, oddiar awydd am feirniadaeth flaenorol, danfonais ef i'r gystadleuaeth o dan y ffug-enw Eirenopoios. Gan fy mod yn llwyr fwriadu cyhoeddi y gwaith, pa beth bynnag fyddai ei dynged yn yr Eisteddfod, ysgrifennais, nid "Traethawd" noeth, ond Cofiant cyflawn o fywyd a gwaith Mr. Richard. Nid oeda yn syn gennyf, gan hynny, ddeall fod y wobr wedi ei rhannu rhwng y ddau gyfansoddiad ag oeddent ar ffurf Traethawd. Ni welais y feirniadaeth a ddanfonwyd i'r Eisteddfod, ond caniataer i mi roddi y dyfyniadau canlynol o lythyrau a dderbyniais oddiwrth un o'r beirniaid, sef y Parch. Griffith Ellis, M A., Bootle.

Ysgrifenna,

"Ni chroesodd fy meddwl o gwbl fod fy hen gyfaill, Meddyliwr, yn y gystadleuaeth, a dieithr i mi ydyw y syniad fy mod yn eistedd i farnu cyfansoddiad o'i eiddo ef."

Mewn llythyr arall dywed,— "Y mae cyfansoddiad Eirenopoios yn un tra rhagorol, ond nid oeddwn yn gweled fy ffordd yn glir i roddi y wobr iddo, am ei fod yn Fywgraffiad yn hytrach na Thraethawd Rhydd Eirenopoios hanes cyflawn am Mr. Richard, o'i febyd i'w fedd. Nid yw wedi arbed un drafferth i chwilio am ddefnyddiau, ac y mae yu helaeth ar ei waith mawr—yn wir, ei waith mwyaf—fel Apostol Heddwch. Ysgrifenna mewn arddull rwydd a dyddorol. Credaf y byddai y Bywgraffiad, pe cyhoeddid ef, yn gaffaeliad i ddarllenwyr Cymreig."