Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IX

Y ddadl Seneddol ar Ddatgysylltiad, ac ar Addysg—Y Tugel—Achos yr Alabama—Araeth Mr. Richard yn erbyn cynhygiad Mr. Cardwell ar luestai milwrol—Y cyffro a ddilynodd—Ei daith yn yr Iwerddon, a'i araeth ym Merthyr Tydfil.

(1871) Ar y nawfed o fis Mai, 1871, cafodd Mr. Richard gyfleustra i draddodi un o'i areithiau nerthol ar un arall o’i hoff bynciau. Dygodd Mr. Edward Miall ei gynhygiad o flaen y Tŷ o blaid datgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth, a chefnogwyd ef gan Mr. Richard. Noswaith hynod oedd honno pan meiddiodd y ddau wron hyn yn achos Anghydffurfiaeth, ddadleu ar lawr Tŷ y Cyffredin am y waith gyntaf erioed o blaid datgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yn gofyn gwroldeb anghyffredin; ond pwy oedd yn fwy dewr na'r hynaws Mr. Miall pan oedd egwyddor a gwirionedd mewn cwestiwn, a phwy a geid a ymladdai yn fwy di-ildio yn achos rhyddid crefyddol nag Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch? Wrth gwrs, yr oedd yr "Aelod dros Gymru” yn seilio ei ddadl ar y