Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/152

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

modd yr oedd yr Eglwys Sefydledig wedi troi yn fethiant mor druenus yng ngwlad ei enedigaeth. Ac nid oedd modd cael gwell sail i adeiladu dadl arni. Danghosodd Mr. Richard fod esgobion Cymru wedi eu penodi yn 1563 i ofalu fod yr Ysgrythyrau i gael eu cyfieithu i'r Gymraeg erbyn 1566, ond ni wnaethant; ac am y cyfieithiad a gyhoeddwyd yn 1588, yr oeddem yn ddyledus i Dr. Morgan am dano. Ni chyhoeddodd yr Eglwys yn yr hanner can mlynedd dilynol ond un argraffiad; ond cyhoeddodd yr Anghydffurfwyr yn ystod yr amser hwnnw 30,000 o gopiau o'r Beibl cyflawn, a 40,000 o'r Testament Newydd. Am 160 mlynedd cyn 1718, ni ddarparodd yr Eglwys ond tri argraffiad o 2,600 O gopiau o'r Ysgrythyrau, a'r rhai hynny ar gyfer yr Eglwysydd; ac am 145 mlynedd ar ol deddf y Frenhines Elizabeth, ni wnaeth yr Eglwys ddim tuag at roddi Beiblau i bobl Cymru. A'r un mor ddiffrwyth fu yr Eglwys mewn ystyriaethau ereill. Yn ol Dr. Morgan, nifer yr Eglwysydd yn Esgobaeth Bangor a Llanelwy yn 1560 ydoedd 318, yn 1855 nid ydoedd y nifer ond 360, sef ychwanegiad o ddim ond 42 mewn 295 o flynyddau. 0 1715 i 1855—ysbaid o 140 o flynyddoedd—nid yn unig ni fu dim cynnydd, ond yr oedd un yn llai! Troer drachefn a chymharer yr hyn a wnaed gan yr