Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eglwys a chan yr Ymneillduwyr. Nifer yr eisteddleoedd yn Eglwys Loegr yng Ngogledd Cymru yn 1801, ydoedd 99,216; gan yr enwadau Ymneilltuol, 32,664. Yn yr hanner can mlynedd dilynol, cynhyddodd y boblogaeth o 352,765 i 412,114, sef tua 63 y cant. I gadw y cyfartaledd a enwyd, dylasai yr Eglwys fod wedi darparu 62,505 o eisteddleoedd newyddion; ond ni ddarparodd ond 16,614. Dylasai yr Ymneillduwyr fod wedi darparu 20,576, ond mewn gwirionedd darparodd 217,903. Hynny yw, fe syrthiodd yr Eglwys 73 y cant islaw yr hyn a ddylasai wneud, tra y darfu i'r enwadau ereill wneud 960 y cant uwchlaw eu dyledswydd. Yn y Deheudir, yn 1801, nifer yr eisteddleoedd yn yr Eglwys ydoedd 133,514; ac eiddo yr Ymneillduwyr oedd 82,443. Cynhyddodd y boblogaeth erbyn 1851, o 288,892 i 593,607, neu 105 y cant. Dylasai cynnydd eisteddleoedd yr Eglwys, yn ol y cyfryw gyfartaledd, fod yn 140,854, ond nid oedd ond 15,204. Ni ddylasai cynnydd yr Ymneillduwyr, yn ol yr un cyfartaledd, fod yn fwy na 86,975, ond yr ydoedd yn 270,516. Felly, fe syrthiodd Eglwys Loegr 89 y cant islaw, a chododd yr Ymneillduwyr 211 y cant uwchlaw y nod. Yr oedd Esgob Llandaff yn ei Gyngor diweddaf yn ymffrostio fod 39 o Eglwysydd newyddion wedi