Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD X.

Cyflafareddiad—Araeth Mr. Richard yn y Senedd arno—Ei Deithiau ar y Cyfandir yn yr achos.

(1873) Yn y flwyddyn 1873, cafodd Mr. Richard y cyfleustra o ddwyn y cwestiwn o Gyflafareddiad o flaen y Tŷ—cwestiwn ag oedd trwy ei oes wedi bod yn destyn ei efrydiaeth a'i bryder. Gosodasai ei gynhygiad ar lyfrau y Tŷ mor foreu a'r 11eg o fis Awst, 1871, ond o'r pryd hwnnw hyd yr 8fed o fis Gorffennaf , 1873, ni chafodd gyfleustra i'w ddwyn gerbron. Ond defnyddiodd yr amser rhwng y ddau ddyddiad i gyffroi y wlad ar y mater, drwy y Wasg, a thrwy foddion ereill.

Er mwyn dangos y teimlad a'r pryder gyda pha un y dygai Mr. Richard ei gynhygiad ymlaen, goddefer i ni gyfeirio at rai o'i eiriau pan yn annerch yr Undeb Cynulleidfaol yn niwedd y flwyddyn 1871, pan y pasiwyd penderfyniad yn datgan llawenydd oherwydd ei fod am ddwyn y cynhygiad ymlaen. Cyfeiriodd Mr. Richard at yr anhawster oedd i gael sylw