Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Tŷ at y fath gwestiwn, yn gymaint a bod tua hanner yr aelodau yn dal rhyw gysylltiad neu gilydd â chefnogiad y gyfundrefn filwrol. Yna dywedai,—

"Yr wyf yn cofio fod Mr. Cobden, pan y dygodd benderfyniad cyffelyb tuag ugain mlynedd yn ol, yn dweud wrthyf, pan roddodd rybudd o'i gynhygiad, fod y peth mor newydd, ac yn ymddangos i fwyafrif o aelodau y Tŷ mor ffol, fel yr oedd chwerthiniad distaw trwy'r Tŷ. Ond darfu i ni, y tu allan i'r Senedd, pa fodd bynnag, wneud a allem i greu cyffro o blaid y cynhygiad. Teithiais i, y pryd hwnnw, drwy bob parth o Loegr ac Ysgotland, i gynnal cyfarfodydd ac i ddeffro teimlad y wlad at y pwnc. Y canlyniad fu, fod llawer o ddeisebau wedi eu danfon i fyny, a llythyrau lawer hefyd at aelodau Seneddol yn bersonol—ffordd effeithiol iawn o ddylanwadu ar yr aelodau—ac o'r diwedd, meddai Mr. Cobden wrthyf, 'Nis gellwch feddwl am cyfnewidiad sydd wedi dyfod dros y dynion hyn. Maent yn awr yn dod ataf i'r lobby, y naill ar ol y llall, ac yn dweud,— Dwedwch i mi, Mr. Cobden, beth ydyw'r cynhygiad hwn mewn perthynas i Gyflafareddiad yr ydych am ei ddwyn ymlaen? Yr ydych wedi peri i bob Crynwr yn fy mwrdeisdref i ysgrifennu ataf mewn perthynas iddo' (chwerthin), a'r canlyniad oedd—pan ddygwyd y cwestymlaen, dadleuwyd ef gyda difrifoldeb a phwyll? Wel, mi garwn i fod, nid yn unig pob Crynwr, ond pob Anghydffurfiwr yng Nghymru a Lloegr yn ysgrifennu at eu Haelodau ar y mater hwn (chwerthin). Yr wyf yn sicr fod hwn yn gwestiwn y gallwn ni, fel corff o grefyddwyr, ei gymeryd i fyny, fel un mewn cydgordiad