Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

perffaith â'r amcan mawr sydd yn ein huno â'n gilydd. …Yn fuan Wedi i mi ddod i gysylltiad a'r Gymdeithas Heddwch, ymwelais a hen weinidog o Gymro, a dywedai wrthyf,—Wel, Mr. Richard, mae hyn yn beth newydd i mi—cwestiwn y Gymdeithas Heddwch yma—phan glywais gyntaf eich bod wedi ymgysylltu â hi, yr oeddwn yn ameu doethineb a phriodoldeb y peth. Ond y mae gennyf un ffordd i brofi pob mater o fath hwn, a hwnnw ydyw,—A allaf ei gymeryd i fy ystafell ger bron Duw, a gweddio drosto (cym.). Ac yr wyf yn teimlo fod y gwaith yr ydych yn ceisio ei wneud, yn waith y gallaf weddio ar Dduw am lwyddiant arno, ac felly yr wyf yn dymuno Duw yn rhwydd i chwi. Yr wyf yn meddwl fod hwn yn gwestiwn y gallwn weddio o'i blaid, ac o ganlyniad, y gallwn weithio o'i blaid; ac yr wyf yn gobeithio y byddwch mor garedig a gweithio drosof, fel y gallaf gael fy nghefnogi gan lais cryf y wlad pan ddygaf y mater o flaen Tŷ y Cyffredin."

O dan y teimlad dwys a chrefyddol hwn yr edrychai Mr. Richard ymlaen at ei gynhygiad, yr hwn, o'r diwedd, y cafodd gyfleustra i'w ddwyn ger bron Tŷ y Cyffredin, ar yr 8fed[1] o fis Gorffennaf, 1873.

Ni chafodd Mr. Richard ddechreu ei araeth hyd nes ydoedd yn naw o'r gloch. Eisteddai ar yr un fainc ag yr eisteddai Mr. Cobden arni yn

1849 i wneud cynhygiad cyffelyb. Yr oedd

  1. Camgymeriad Mr. Miall ydyw dweud mai ar y 9fed ydoedd