Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

buasai felly, yr ydym wedi cael digon o hynny yn yr amser a fu i foddloni y chwant mwyaf anniwalladwy am ogoniant milwrol. Ond yn fy meddwl i, dyma yw gogoniant Prydain—ei bod yn lle genedigol a chartref rhyddid, ei bod wedi medru dysgu cenhedloedd, trwy ei hesiampl, sut i uno trefn a rhyddid yn ei bywyd politicaidd; ei bod yn fam trefedigaethau rhydd, y rhai sydd yn cario allan ei syniadau a'i sefydliadau ym mhob parth o'r byd; mai hi oedd y gyntaf i ddryllio iau y caethwas, ac i orchymyn iddo ddod yn rhydd; ei bod yn estyn allan ei llaw i wasgar bendithion gwareiddiad a Christionogaeth ymysg y Cenhedloedd i bellderau eithaf y byd. Dyma'r pethau, yn ol fy marn i, sydd yn anrhydeddu Prydain; a bydd yn anrhydedd ychwanegol, os yn bosibl—yn goron ardderchog ar ei hanrhydedd—os daw yn rhagredegydd Heddwch i'r byd, os cymer y cam cyntaf mewn trefnu yr Heddwch hwnnw ar seiliau oadarn a diysgog, fel ag i wneud rhywbeth i sylweddoli gweledigaethau gogoneddus ein Prifardd,—

When the war drum throbs no longer,
And the battle flag is furled,
In the Parliament of men,
The federation of the world;
When the common sense of most
Shall find a fretful realm in awe,
And the kindly earth shall slumber
In universal law.”

Ar ol i Mr. Mundella gefnogi y cynhygiad, cododd Mr. Gladstone ar unwaith, a siaradodd am dri chwarter awr. Canmolai araeth Mr. Richard, ac aeth ymlaen i gefnogi llawer o'r pethau a