Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddywedodd. Cydymdeimlai yn hollol â'r amcan oedd ganddo mewn golwg. Yn wir, yr oedd yn amhosibl peidio teimlo pleser wrth wrando ar y Prif Weinidog yn traddodi araeth mor lawn o syniadau heddychol. Credwn ei fod yn y sefyllfa anghysurus honno o fod yn argyhoeddedig fod Mr. Richard yn ei le, ond nad oedd efe yn barod i geisio cario ei gynhygiad allan i weithrediad. Pan oedd Mr. Richard yn Rhufain, ar ol hyn, yn diolch am y derbyniad a dderbyniasai yn y cyfarfod o enwogion i'w longyfarch, fel hyn y siaradodd am araeth Mr. Gladstone ar yr achlysur hwn, —

"Nis gellir gwneud camgymeriad mwy na thybied fod ein Prif Weinidog, Mr. Gladstoue, oherwydd ei fod wedi gomedd, ar y pryd, dderbyn y cynhygiad a wnaethum yn y Senedd, yn erbyn y cynhygiad o Gyflafareddiad. Y mae yn gymaint fel arall, fel nad yw ers blynyddau wedi colli un cyfleustra i ddefnyddio ei hyawdledd digymar i gondemnio barbareidd-dra rhyfel, ac argymhell ar ddynion ffordd well a doethach i derfynnu cwerylon. Yn wir, ar yr achlysur y cyfeiriais ato, pan yn ateb fy nghynygiad i, yr oedd ganddo lawer mwy i'w ddweud o'i blaid nag yn ei erbyn; yn gymaint felly, fel yr wyf yn cofio fod un newyddiadur, nad oedd yni hoff iawn o'm golygiadau i, yn ei feio yn fawr, ac yn dweud y dylasai, ar ol y fath araeth, bleidleisio dros fy nghynygiad. Ond credai Mr. Gladstone fod y cynhygiad heb aeddfedu digon, a thra yr oedd efe ei hun yn cymeradwyo yr egwyddor o Gyflafareddiad, amheuai a oedd