Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Procurator General of the Court of Cassation. Ar ol cynnyg iechyd da Mr. Henry Richard, galwai ar M. Frederic Passy i siarad, yr hwn, mewn ymadroddion gwresog, a ganmolai y gwaith dyngarol yr oedd Mr. Richard yn ei ddwyn ymlaen. Cyfeiriai at ei gyfeillgarwch â Mr. Cobden, a'i waith yn teithio trwy Ewrob i ddadleu dros ddiarfogiad. Cyfeiriai hefyd at Mr. Gladstone, yr hwn, er y gallai ei fod yn gwahaniaethu gyda golwg ar y moddion, oedd yn ddiau, fel Mr. Richard, yn haeddu cael ei restru ymysg gwroniaid Heddwch yn Ewrob. Yna cododd Mr. Richard i ddiolch iddynt. Ar ol ychydig o eiriau yn Ffrancaeg, mewn ffordd o esgusawd am ei anhyddysgedd yn eu hiaith, traddododd araeth rymus ac effeithiol iawn yn Saesneg. Dywedai fod rhai o honynt, hwyrach, wedi dyfod yno i weled y dyn gorphwyllog oedd yn rhedeg ar draws byd i awgrymu moddion cyfreithiol i gadw Heddwch pan oedd y gwahanol genhedloedd yn ychwanegu at eu byddinoedd, ac yn hogi eu harfau. Ond yr oedd y rhai a dybient fod ei amcan yn un anymarferol yn anghofio nad oedd efe yn disgwyl ffrwyth ar unwaith, a'i fod yn gwybod yn dda am yr anhawsterau ynglŷn â'i gynllun. Eu gwaith cyntaf oedd gwneud y syniad yn un poblogaidd; a llawenychai fod ei gyfeillion mewn gwahanol wledydd yn ei gynorthwyo i wneud hynny. Yr oedd y cyflawniad yn waith amser, ac nid oedd yn debyg y gwelai efe y dydd y cymerai le. Ond tra y gwyddai fod rhagfarn a nwydau i gael eu dymchwel gan reswm, credai fod y rhai a siaradent an ei waith fel un Utopiaidd yn ymguddio tu ol i air nad oeddent yn gwybod ei wir ystyr. Eu Lamartine hwy, onite, oedd wedi dweud nad oedd Utopia ond gwirionedd o bell. Bu amser ag yr oedd diddymiad y gaethfasnach yn Utopiaidd, ac felly am