ddiddymiad y Deddfau Yd. Galwyd yr olaf unwaith yn fesur gwallgof, ond yr oedd efe wedi byw i weled ei gyfaill, Richard Cobden, yn troi y syniad Utopiaidd yn ffaith. Gyda golwg ar yr amcan oedd ganddo ef mewn golwg, gofynnai beth a feddylient o sefyllfa pethau pe na byddai dim cyfraith i benderfynnu anghydfyddiaethau rhwng personau unigol mewn un deyrnas. Onid oedd cynnydd gwareiddiad wedi gwneud i ffwrdd â'r dull o derfynnu cwerylon trwy rym a thrais? Ac os cedd 5 person unigol wedi cyrraedd y sefyllfa hon o berffeithrwydd, paham y dylai teyrnasoedd aros mewn cyflwr o farbareidd-dra? Ar ol talu gwarogaeth galonnog i Mr. Gladstone, a nodi y derbyniad croesawus a gawsai efe ym mhob man ar y Cyfandir fel cennad Heddwch, terfynnai yn y geiriau a ganlyn,—'Mor bell ag y mae fy rhan i o'r gwaith yn myned, os na chaf fyw i'w weled yn cael ei wobrwyo â llwyddiant, nid anobeithiaf; oblegid y mae rhai anturiaethau yn bod ag y mae yn fwy o ogoniant syrthio wrth geisio eu cyflawni, nag a fyddai bod yn fuddugoliaethus mewn rhai ereill.' Derbyniwyd y geiriau hyn gyda banllefau ar ol banllefau. Mynych y gwaeddid ar ganol yr araeth, Tres bien, ac y danghoswyd mawr gymeradwyaeth; ac yr oedd y rhan fwyaf yn dilyn yr hyn a ddywedid gyda'r un brwdfrydedd a phe buasid wedi siarad yn eu hiaith eu hunain."
Mae yn hawdd gennym gredu hyn, hyd yn oed pe na buasent yn deall Mr. Richard yn dda. Mae Elihu Burritt, wrth roddi hanes Cynhadledd Heddwch cyn hyn yn Paris, yn crybwyll ei fod yn sylwi ar y dagrau yn treiglo i lawr gruddiau un dyn yn ei ymyl pan oedd Sais (y