Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Parch. J. Burnett) yn siarad yn llawn brwdfrydedd, a'i fod, gan wybod mai Ffrancwr ydoedd, wedi gofyn iddo yn Ffrancaeg a oedd yn deall y siaradwr. "Nac ydwyf," meddai, gan daro ei fron, "ond yr wyf yn ei ddeall yma." Ydyw, y mae yn haws deall iaith calon na iaith tafod yn aml. Buasai yn dda gennym, yn ychwanegol at y, desgrifiad uchod, roddi cyfran o araeth hyawdl M. Frederic Passy, cyfieithiad cyflawn o'r hon sydd yn awr o'n blaen, er dangos y brwdfrydedd gyda'r hwn y derbyniwyd Mr. Richard. Ymfoddlonwn ar roddi y diweddglo hyawdl, pan y trodd at Mr. Richard, ac y dywedodd,—

"Anwyl gyfaill anrhydeddus,—Mae yn ddrwg gennym nad yw'r croesaw yr ydym yn ei roddi i chwi yn gyfryw ag y dymunem, ac wrth gymharu derbyniad hwn â'r clodydd a dderbyniasoch mewn mannau ereill, chwi ellwch edrych ar hwn fel un bychan iawn. Nid oes o'ch blaen, fel yn Rhufain, fanllefau holl Itali a Neuaddau y Capitol. Nid ydym yn dod ger eich bron, fel yn yr Hague, gyda chaniadau a chydganau unedig i'ch arwain yn fuddugoliaethus at balmwydden Heddwch. Pa fodd y gallwn fod yn llawen ein calon yn y cyflwr difrifol y mae y rhyfel wedi ein gadael? Pa lawenydd a allem ei ddangos heb ei fod yn gymysg â thristwch a gofid am a fu? Heblaw hynny, nid yw yr amser presennol y mwyaf ffafriol i gynnal ein cyfarfod, ac y mae llawer o amgylchiadau yn rhwystro i lawer fod yn bresennol, y