Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/186

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anisgwyliadwy, datgorfforwyd y Senedd. Tybiai Mr. Gladstone y gallasai apelio at y wlad gyda hyder, oblegid yr oedd ganddo ddiwygiadau pwysig i'w dwyn ymlaen. Ond un araf gyda diwygiadau ydyw y Sais, a chafodd y Toriaid eu hunain, ar ol yr Etholiad, gyda mwyafrif o 46. Ymddiswyddodd Mr. Gladstone, a daeth Gweinyddiaeth Mr. Disraeli i mewn. Ond yr oedd sedd Mr. Richard yn ddiogel. Ail-etholwyd ef gyda mwyafrif o 2,694; er fod pawb ag oedd yn gweithio drosto yn gwneud hynny yn ddi-dâl.

Teimlai Mr. Richard golled dirfawr ar ol rhai o'i gyfeillion a'i gyd-weithwyr yn y Senedd; ac yn enwedig ar ol ei gyfaill, Mr. E. M. Richards, yr hwn a gollodd ei sedd yn swydd Aberteifi, a Mr. Edward Miall, yr hwn a roes ei sedd i fyny o herwydd gwaeledd ei iechyd. Gomeddai Mr. Gladstone arwain Wrth-blaid, gan ei fod yn teimlo awydd am fwy o seibiant. Wedi tipyn o helbul, syrthiwyd ar Arglwydd Hartington i gymeryd ei le.

Dechreuodd y Weinyddiaeth Doriaidd ar un- waith wastraffu yr arian mawr a adewsid iddi gan Mr. Gladstone; a buan cododd y cri yn y papurau nad oedd ein llynges yn werth dim— cri ag y byddai Mr. Richard yn arfer dweud a wreiddiai bob amser ymysg y swyddogion