milwrol. Ond llwyddwyd i ochel chwanegu mwy na chan mil o arian at gostau y llynges y tro hwn.
Senedd-dymor Eglwysig oedd un cyntaf y Weinyddiaeth hon. Dygwyd cynifer a deunaw o fesurau i mewn i reoleiddio materion Eglwysig. Dywedai Mr. Richard mai math o Gynhadledd Eglwysig oedd Tŷ y Cyffredin, na fu y Seneddwyr yn gwneud nemawr ddim ond dadleu ar Gredoau, Catecismau, Henaduriaethau, Cymanfaoedd, Defodau Crefyddol a materion o'r fath, ie, y Llyfr Gweddi Cyffredin; a'u bod wedi apelio at bob llyfr bron yn eu dadleuon, ond y Beibl! Un o'r mesurau a ddygwyd i Dŷ yr Arglwyddi oedd un i "buro yr Eglwys oddiwrth ddefodaeth," o dan yr enw "Rheoleiddiad Addoliad Cyhoeddus." Hawdd gwybod y modd y teimlai Mr. Richard mewn Tŷ yn gynwysedig o ddynion o bob math o gredo, a rhai heb gredo yn y byd, yn trin mater o'r fath. Traddododd araeth rymus ar y mesur, a danghosai mai yr yr unig "reoleiddiad" llwyddianus fyddai Datgysylltiad.
Ar y 25ain o Fai y flwyddyn hon, cynhaliwyd cyfarfod yn Llundain, i longyfarch Mr. Richard ar lwyddiant ei deithiau yn achos Heddwch ar y Cyfandir, o dan lywyddiaeth Mr. Mundella, yr hwn oedd wedi cefnogi ei gynhygiad ar yr 8fed o Orffennaf blaenorol. Yr