Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y cyfarfod yn gyfansoddedig o wŷr dylanwadol iawn. Dywedai y Cadeirydd, ymysg pethau ereill, fod dwy fil o weithwyr ar wastadeddau Lombardy wedi cyflwyno i Mr. Richard Anerchiad o ddiolchgarwch a llongyfarchiad; ac yr oedd yn weddus, meddai, fod y cyfryw arwydd o ddiolchgarwch yn dod o Lombardy, gan fod ei meusydd wedi eu mwydo â gwaed goreu Ewrob.

Yn y cyfarfod taflodd Mr. Richard fras olwg ar helyntion ei daith, a'r wedd obeithiol oedd ar achos Heddwch. Nid oedd mor ffol a dychmygu fod y mil blynyddoedd ar wawrio, ond credai, ar yr un pryd, fod ei Gynhygiad yn y Senedd, a'i daith ar y Cyfandir wedi gwneud rhywfaint tuag at hyrwyddo dyfodiad y blynyddoedd dedwydd hynny. Llawenychai fod cynifer o'r dosbarth gweithiol ar y Cyfandir yn bleidiol i'r symudiad. Cyfeiriai hefyd at bleidwyr Heddwch ymysg dosbarth gweithiol y wlad hon, fel peth priodol iawn. Eu gwaed a'u hesgyrn hwy oedd yn gorchuddio meusydd rhyfel; hwy a'u teuluoedd oedd yn dioddef, ond ereill oedd yn cael y tâl a'r anrhydedd. Cymerodd Mr. Richard hefyd yr achlysur i ddweud mai nid gwir oedd yr haeriad a wnaed gan rai fod ei Gynhygiad yn Nhŷ y Cyffredin wedi ei basio ar yr awr giniaw. I'r gwrthwyneb, ni chymerodd