y rhaniad arno le hyd yn agos i hanner nos, pan oedd pawb, hyd yn oed yn yr amseroedd hynny o giniawa yn hwyr, wedi cael amser i fwyta eu ciniaw, ac i'w dreulio hefyd.
Yn y mis Mehefin canlynol, gwnaeth Mr. Richard ymgais egniol yn y Tŷ i ddiddymu yr adran gaeth ym Mesur Mr. Foster ar Addysg, sef y 25ain. Traddododd araeth gref, ond bu yn aflwyddiannus. Nid oedd gwaith ail Senedddymor y Weinyddiaeth hon ond rhywbeth tebyg i'r un flaenorol, ac ar ei derfyn aeth Mr. Richard, a Mrs. Richard gydag ef, ar ymweliad drachefn a'r Cyfandir, yn achos Heddwch. Ar ol bod yn Paris, aeth i bentref Aigle, yn Switzerland, lle y bu yn trefnu a darllen llythyrau Mr. Cobden gyda'r bwriad, y pryd hwnnw, o ysgrifennu ei Fywgraffiad.
Ar ol dychwelyd o'r Cyfandir, cafodd Mr. Richard, fel pob gŵr sydd wedi cyrraedd enwogrwydd, fod y galwadau arno i bob math o waith, cyfarfodydd, areithiau, darllen papurau, a gwaith ynglŷn â'r Gymdeithas Heddwch, yn ddi-ben-draw, ymron. Un o'r cyfarfodydd arbennig hynny ydoedd yr un ar agoriad Neuadd Goffadwriaethol yr Anibynwyr a'r Llyfrgell yn Farrington Street, Llundain, yn 1875.
(1875) Traddododd Mr. Richard araeth ar "Ymdrech Anghydffurfwyr diweddar am Gydraddololdeb