Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Crefyddol." Ymhen ychydig iawn, penodwyd ef yn Gadeirydd Dirprwywyr y Tri Enwad. Cymdeithas oedd hon a ffurfiwyd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1735, ac yn gynwysedig o Ymneillduwyr Llundain o'r tri enwad, sef Henaduriaethwyr, Anibynwyr a Bedyddwyr, gyda'r amcan o amddiffyn eu hawliau gwladwriaethol. Yr oedd dewisiad unfrydol Mr. Richard i lenwi y swydd o Lywydd, yn dangos y parch mawr oedd gan y Dirprwywyr tuag ato. Traddododd araeth agoriadol, yn yr hon y datganai ymlyniad wrth Mr. Gladstone; ond dywedai ar yr un pryd, fod yn rhaid i'r Ymneillduwyr bellach ymsythu a sefyll ar eu traed yn ddewr. Parhaodd Mr. Richard i fyned yn ffyddlon i holl gyfarfodydd a phwyllgorau y Dirprwywyr, ac enillodd barch cyffredinol, a therfynodd y llafur hwn o'i eiddo yn y flwyddyn 1887, gydag araeth rymus ar y cynnydd yr oedd rhyddid crefyddol weli ei wneud o flwyddyn gyntaf teyrnasiad Victoria hyd y flwyddyn honno, sef blwyddyn y Jiwbili.

Traddododd Mr. Richard araeth yn Nhŷ y Cyffredin yn y flwyddyn 1875 o blaid Mesur Claddu Syr G. Osborne Morgan, pryd y taflwyd y Mesur allan trwy fwyafrif o 14 yn unig (sef 248 yn erbyn 234), er mai y Toriaid oedd mewn awdurdod. Traddododd araeth alluog