Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a chynhwysfawr hefyd ar Fesur Esgobol St. Albans.

Mor fuan ag yr oedd y Senedd-dymor hwn drosodd, aeth Mr. Richard a'i wraig i'r Hague, lle yr oedd y ddwy Gymdeithas Gyfreithiol yn cynnal eu heisteddiadau. Cyrhaeddodd yno ar yr 31ain o Awst, a chafodd fod Cymdeithas Cyfraith Rhyngwladwriaethol wedi terfynnu ei heisteddiadau, a hysbyswyd Mr. Richard fod Brenhines y Netherlands wedi dymuno cyfarfod aelodau y ddwy Gymdeithas. Gwahoddwyd Mr. Richard a'i wraig gyda hwynt. Mae Mr. Richard yn ei Ddyddlyfr, yn rhoi adroddiad o'i ymweliad, Cyflwynwyd Mr. Richard i'r Frenhines fel "awdwr y Cynhygiad nodedig ar Gyflafareddiad yn Nhŷ y Cyffredin." "Mae yn dda gennyf gael y cyfleusdra i'ch adnabod, Mr. Richard," ebe'r Frenhines, mae eich enw yn dra adnabyddus i mi, fel y mae trwy'r byd.” Ac yna aeth yn ymddiddan rhydd rhyngddynt. Dengys hyn fod y Cynhygiad crybwylledig, a'r ymraniad arno, wedi tynnu sylw neilltuol ar y Cyfandir, pa effaith bynnag a gynhyrchodd yn y wlad hon.

Fe welir fel hyn fod llafur Mr. Richard, tua'r anser hwn, yn cael ei rannu rhwng Tŷ y Cyffredin a dadleu achos rhyddid a Heddwch yno, a gwasanaethu yr un achosion gartref; rhwng