Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

areithiau ac ysgrifeniadau a myned i "orffwys" mewn llafur ar y Cyfandir yn achos Cyflafareddiad. Yr oedd Disraeli yn dechreu dadlennu tueddiadau uchelfrydig-tueddiadau “Ymherodraethol," fel y gelwir hwynt—fel y mae Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury yn awr. Yn ystod y ddwy flynedd y bu Arglwydd Beaconsfield mewn awdurdod, cynhyddodd y costau milwrol dros ddwy filiwn o bunnau, a phob golwg mai cynhyddu fwy-fwy a wnaent.

(1876) Yn Senedd-dymor 1876, gwnaeth Mr. Richard ei oreu i wrthweithio y cynnydd hwn. Cynhygiodd Syr Wilfrid Lawson, pan gyflwynwyd yr amcan-gyfrifon o flaen y Tŷ, welliant yn datgan nad oedd gwir angen am ychwanegiad at gostau milwrol y deyrnas, mewn araeth hapus iawn, a chefnogwyd ef gan Mr. Richard mewn araeth gyrhaeddgar. Ni phetrusodd gyhuddo y dosbarth milwrol, yn y wlad hon, ac ar y Cyfandir, o geisio dal i fyny y gyfundrefn ddrygionus o gydymgais rhwng teyrnasoedd mewn arfau milwrol, er mantais eu crefft. Collwyd y Cynhygiad, pa fodd bynnag, trwy fwyafrif o 192 yn erbyn 93. Ond parhau i weithio yn yr un cyfeiriad a wnai Mr. Richard. Ar y 15fed o Fai, 1876, cododd ei lef yn groew yn erbyn codiad yn y dreth Incwm. Danghosodd fod hyd yn oed y