Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaid Ryddfrydig yn rhy barod i anghofio cynhildeb, er maint oedd ei phroffes. Dywedai nad oedd dim digoni ar y ddwy adran filwrol, y fyddin a'r llynges; yr oeddent fel gelen y meirch yn gwaeddi “moes, moes,” yn ddiddiwedd, a pha faint bynnag a roddid, yr oedd fel tywallt dŵr i ogor; nid oedd dim yn aros i'w ddangos am yr oll a roddwyd i mewn. Yr oeddid yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol wedi gwario 550 o filiynnau o bunnau ar ein harfau milwrol, ac eto dywedai ein hawdurdodau milwrol fod y wlad yn hollol ddiamddiffyn!

Ym mis Mehefin, dygodd Mr. Richard achos China ger bron y Tŷ, a'r un mis cynhygiodd benderfyniad i'r perwyl y byddai arfer gorfodaeth yn achos Addysg yn anghyfiawn, oni wneid darpariaeth i osod yr Ysgolion Cyhoeddus o dan reolaeth y wlad. Cymerodd ran arbennig yn nadleuaeth y Mesur hwn, a phan basiodd ar y 5ed o Awst, gwnaeth wrthdystiad yn ei erbyn, gan ei fod yn gosod Addysg y wlad yn nwylaw Eglwys Loegr. Danghosai fel yr oedd yr Eglwys yn defnyddio yr Ysgolion Cyhoeddus hyn i ddibenion proselytaidd. Yn wir, ni fu Mr. Richard erioed yn gyfaill calon i Addysg orfodol o gwbl, oblegid yr oedd ganddo ymlyniad tyn yn yr egwyddor o ryddid oddiwrth bob