Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymyriad â meddwl ar ran unrhyw lywodraeth wladol. Nid oedd yn edrych ar yr ysgolion a elwid yn Ysgolion Gwirfoddol yn deilwng o'r enw; oblegid yr oedd yr Eglwys Sefydledig, yn yr un-mlynedd-ar-bymtheg blaenorol, wedi derbyn oddiwrth y Llywodraeth dros ddeng miliwn o bunnau at eu hysgolion, tra nad oedd ei chyfraniadau gwirfoddol ond tua chwe chan mil yn y flwyddyn.

Ar derfyn y Senedd-dymor, yr hwn a fu yn un blin a llafurus iawn i Mr. Richard, aeth ef a'i wraig ar y Cyfandir, er mwyn bod yn bresennol yn y Gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Medi yn Bremen, ar y cwestiwn o Gyfraith Ryngwladwriaethol. Cyfarfu yno â lluaws o gynrychiolwyr o Germani, Ffrainc, Awstria, Denmarc, Norway a Sweden. Traddododd araeth faith yn y Gynhadledd ar yr egwyddorion a ddylent lywodraethu gwledydd Cristionogol yn eu hymwneud â gwledydd barbaraidd neu anghristionogol, a siaradodd ar faterion ereill, a derbynid ei sylwadau bob amser gyda'r parch mwyaf.

Yng ngwanwyn y flwyddyn hon, dewiswyd Mr. Richard yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol am y flwyddyn ganlynol; y tro cyntaf y gosodwyd y fath anrhydedd ar un oedd erbyn hyn yn ei ystyried ei hun yn lleygwr. Pan yn