Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

traddodi ei araeth agoriadol y flwyddyn ganlynol, cyraerodd yn destun "Perthynas y gallu tymhorol ac ysbrydol mewn gwahanol wledydd." Nid oedd pawb yn y fath gynhulliad dysgedig, fel y gallesid disgwyl, yn cydsynio ym mhob peth â'r hyn a ddywedai, a cheisiodd Dr. Dale o Birmingham, ddwyn y "Cwestiwn Dwyreiniol i mewn," er mwyn dangos cydymdeimlad â'r cwrs a gynghorai Mr. Gladstone, er arfer gorfodaeth ar Twrci, at yr hyn y cawn alw sylw eto. Siaradodd Dr. Allon, Dr. Raleigh, y Parch. J. G. Rogers, y Parch. Newman Hall a Dr. White o blaid Cynhygion Mr. Gladstone yn Nhŷ y Cyffredin.[1] Yr oedd y siaradwyr yn awyddus i orfodi Twrci i gario allan orchymyn y Galluoedd Ewropeaidd. Teimlai Mr. Richard fod "gorfodi" yn golygu, yn y pen draw, myned i ryfel, ac nid oedd efe, fel "Apostol Heddwch," yn bleidiol i hynny; a theimlai ei sefyllfa fel Cadeirydd yn un gaeth, gan fod ei gydymdeimlad mor fawr o blaid y gorthrymedig ar y naill law, a'i atgasrwydd at ryfel yr un mor fawr

ar y llaw arall. Gyda'i ddeheurwydd a'i benderfyniad arferol, cefnogodd benderfyniad Dr. Dale,

  1. Am natur y Cynhygion hyn, gweler William Ewart Gladstone: Ei Fywyd a'i Waith, gan y Parch. Griffith Ellis, 21.4., tudal. 300.