Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/196

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr hwn oedd yn datgan gwerthfawrogiad o lafur Mr. Gladstone o blaid rhyddid, ac yn llawenhau oherwydd ei waith yn gomedd rhoddi unrhyw gefnogaeth foesol na materol ar ran Lloegr i Twrci.

(1877) Ar achlysur arall, Hydref 18, 1877, pan yn Gadeirydd yr Undeb, traddododd araeth ar "Gymhwysiad Cristionogaeth at Boliticiaeth." Ar derfyn y flwyddyn, pasiwyd penderfyniad gwresog a chryf o ddiolchgarwch i Mr. Richard, a dymuniad ar iddo gael hir oes ac iechyd i gyflawni gwasanaeth yn Nadleuon Eglwysyddol y dydd. Dywedodd Dr. Allon, cynhygydd y penderfyniad, ei fod yn y mis Mai blaenorol yn methu yn hollol a chytuno â Mr. Richard gyda golwg ar gwestiwn y rhyfel; ond yr oedd, er hynny, wedi gosod egwyddorion mawrion i lawr, ac yr oedd yn ddiau, yn ddyledswydd arnynt oll, fel gweinidogion yr Efengyl, wneud a allent yn erbyn rhyfel. Wrth ddiolch iddynt, dywedai Mr. Richard, hwyrach y byddai yn dda ganddynt glywed fod ei araeth ym mis Mai wedi peri cyffro mewn amryw barthau o Ewrob. Cyhoeddwyd hi yn Paris, yn y Revue Politique, a chyfieithwyd hi i'r iaith Isellmynaeg ac ieithoedd ereill, a hyderai y byddai yr hâd a hauwyd yn dwyn ffrwyth. Yr oedd yn ddrwg ganddo fod Gweinidogion yr Efengyl