Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XIII

Yr Achos Dwyreiniol eto—Erchyllderau Bulgaria,— Y Gynhadledd Fawr yn St. James's Hall ar yr achos— Dirprwyaeth at Arglwydd Derby-Areithiau ar Heddwch gan Mr. Richard - Rhyfel Rwsia a Thwrci—Cytundeb Berlin, a barn Mr. Richard arno—Ei ymdrech i ddwyn Cyflafareddiad iddo—Cynhadledd Heddwch yn Paris—Rhyfel y Zuluiaid.

(1876) Yn y flwyddyn 1876—am y bumed waith mewn can mlynedd-cododd y "Cwestiwn Dwyreiniol" drachefn i aflonyddu ar heddwch Ewrob. Yn y flwyddyn flaenorol, fe dorrodd gwrthryfel allan yn un o daleithiau Ymherodraeth y Twrc, Herzegovina, oherwydd gormes tirfeddianwyr Mahometanaidd. Enillodd y gwrthryfelwyr fuddugoliaeth ar y Tyrciaid. Cyfryngodd Awstria er mwyn diogelu rhai diwygiadau y galwent am danynt. Wedi hynny, torrodd rhyfel allan yn Bulgaria, ac wrth roddi y gwrthryfel i lawr, cyflawnwyd erchyllderau ofnadwy gan filwyr Twrci, y rhai a dynasant sylw y byd o dan yr enw Bulgarian Atrocities. Yr oedd yr hanes a roddid am danynt yn y Daily News yn cyffroi yr holl deyrnas.