Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ceisiodd Disraeli wawdio y cwbl, oblegid yr oedd efe yn bleidiol i Twrci. Ceisiai wadu y ffeithiau; ond profwyd hwynt tu hwynt i bob dadl. Lledodd y gwrthryfel i Servia a Montenegro. Ym mis Medi, 1876, cyhoeddodd Mr. Gladstone ei bamphlet byth-gofiadwy ar y Bulgarian Horrors a Chwestiwn y Dwyrain. Cyffrodd y wlad drwyddi. Yr oedd Mr. Disraeli—yr hwn tua'r amser yma a godwyd i Dŷ yr Arglwyddi o dan y teitl Arglwydd Beaconsfield—yn gwneud a allai i chwythu y fflam, yn hytrach o blaid nag yn erbyn Twrci. Nid oedd dim cefnogaeth i'w gael ganddo ef o blaid y gorthrymedig. Cododd teimladau "Jingoaidd"—dyma'r adeg, yn wir, y cawsant hwy, y blaid ryfelgar, yr enw—traddododd Mr. Disraeli araeth yn Aylesbury, ag oedd yn eglur ddangos ei dueddiadau; ac yr oedd hefyd yn creu dychryn ym meddyliau goreugwyr y deyrnas, rhag y byddai iddo lusgo y wlad hon i roddi ei chynhorthwy yn hytrach o blaid Twrci. Condemniai y blaid Ryddfrydig, dywedai fod ei hymddygiadau yn waeth na'r erchyllderau honedig. Ar yr 8fed o Ragfyr, 1876, cynhaliwyd Cynhadledd fawr yn St. James's Hall, Llundain, i wrthwynebu Gwladweiniaeth Dr. Disraeli ar y cwestiwn. Yr oedd y Gynhadledd hon, medd un ysgrifennydd, "yn un o Gynhadleddau mwyaf