Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/200

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ardderchog yr oes." Cynhaliwyd cyfarfod yn y prynhawn ac yn yr hwyr. Llywydd cyfarfod y prynhawn oedd Duc Westminster, ac un yr hwyr ydoedd Iarll Shaftesbury. Ymysg y prif siaradwyr yr oedd Mr. Gladstone, Esgob Rhydychain, Esgob Argyll, Henry Richard, Mr. Trevelyan, Mr. Fawcett, Mr. Freeman ac ereill. Ni raid dweud y traddodwyd areithiau galluog dros ben, teilwng o enwogrwydd yr areithwyr, ac o bwysigrwydd yr achos. Codwyd y cyfarfod i deimladau angherddol gan Mr. Gladstone a Mr. Freeman. Yr oedd araeth Mr. Richard, er nad yn un faith, yn un afaelgar dros ben. Cyfyngai ei hunar-er mwyn arbed amserar-i un wedd ar y pwnc yn unig, sef cyfrifoldeb Prydain gyda golwg ar Gwestiwn y Dwyrain. Yr oedd ei chyfrifoldeb, meddai, yn codi oddiar ei bod wedi cefnogi Twrci yn fwy nag un Gallu arall yn Ewrob, hi oedd wedi dyfeisio yr ym- adrodd soniarus, "Cyfanrwydd ac anibyniaeth Twrci," yr hyn oedd wedi bod wrth wraidd ein policy am gynnifer o flynyddoedd. Dyma oedd gwir achos rhyfel y Crimea. Lloegr oedd wedi peri y rhyfel hwnnw. Yr oedd yr holl bleidiau yn yr achos hwnnw yn barod i derfynnu y cweryl heb apelio at y cleddyf, oni buasai ymyriad y wlad hon. Ac ar derfyniad y rhyfel, yr oeddem wedi dwyn i mewn i'r Cytundeb yn