Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Paris, nad oedd un Gallu i gyfryngu mewn un modd rhwng y Sultan â'i ddeiliaid. Ie, yr oeddem wedi cefnogi Twrci i ddod i farchnad Lloegr, a benthyca yn agos i ddau can miliwn o arianar-arian a wariasai yn y modd gwaradwyddus y cwynid yn awr o'i herwydd. Yr oeddem yn 1860 wedi arfer ein dylanwad i geisio celu creulonderau Twrci yn Jedda, Damascus a Syria, ac yn parhau i geisio dal i fyny y Twrc.

"Gyda'r amcan hwn," meddai, "mae pob hysbysrwydd wedi ei fygu, wedi ei gadw draw, wedi ei newid, er mwyn tynnu gorchudd dros yr erchyllderau a gyflawnwyd yng nghanol-barthau Twrci—(uchel gym.) er mwyn mygu gruddfanau y gorthrymedig fel na chyrhaeddent glustiau pobl y wlad hon; a phan, o'r diwedd, y llusgwyd i'r goleuni weithredoedd ag oedd yn llenwi y byd â digofaint a dychryn, gwnaed pob ymgais i esgusodi y gweithredoedd drygionus a chreulon hyn, ac yn wir i geisio eu cyfiawnhau." Ond nid oedd efe, er hynny, am fyned i ryfel i geisio gwella pethau; nid oedd hynny ond ceisio bwrw allan gythreuliaid, trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid. Yr oedd efe, fel y gwyddent, yn dra anuniongred ar y cwestiwn o ryfel." "Ond er," meddai, "y gall fod gwahaniaeth barn rhyngom ar lawer pwynt, yr wyf yn hyderu ar yr un pwynt hwn ein bod yn unfarn, ac yr â allan o'r cyfarfod hwn lais nid aneglur, a hwnnw ydyw hwn,—Gan ein bod ni yn y cyfarfod hwn yn meddu mwy o hawl i gynrychioli teimlad ac ewyllys y wlad, y danfonwn y llais hwnnw allan fel ein penderfyniad diysgog yn