Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

enw rhyddid, yn enw cyfiawnder, yn enw dynoliaeth, yn enw hen gymeriad gogoneddus Lloegr fel cyfaill y gorthrymedig, ac—yr wyf yn ei ddyweud gyda difrifoldeb a pharch—yn enw yr Hwn sydd yn caru cyfiawnder, ac yn cashau an wiredd, na chaiff un geiniog o arian Prydain, nac un dafn o waed Prydain ei roddi mwy i gynnal y gyfundrefn honno o farbareidd-dra a elwir yn Ymerodraeth Ottomanaidd."

Mae'n amlwg fod Mr. Richard wedi taro ar dant ag oedd yn cyffwrdd â chalonnau y dorf, oblegid neidiodd pawb ar eu traed ar unwaith, a danghoswyd cymeradwyaeth mawr a hirfaith. Traddododd Mr. Richard luaws o areithiau nerthol, ac ysgrifennodd lawer tua'r amser hwn, a buasai yn dda gennym allu dyfynnu o honynt, gan eu bod yn llawn o addysg, hyd yn oed ar gyfer y dyddiau yr ydym yn awr yn ysgrifennu ynddynt. Yr oedd ganddo hawl neilltuol i wrthwynebu pob ymgais i lusgo y wlad hon i ryfel o blaid Twrci, gan ei fod mewn modd arbennig wedi gwrthwynebu hynny yn amser rhyfel y Crimea. Wrth sôn am ymdrechion Mri. Cobden a Bright y pryd hwnnw, y mae yn dweud yn un o'i areithiau,—"Ac yr oeddem ninnau yn yr ymgyrch." Oedd; a chan iddo ymladd yn ddewr yn erbyn y rhyfel ffol ac ofnadwy hwanw, trwy ysgrifennu, areithio, a gweithio yn ddidor, meddai hawl arbennig, meddwn, i ofyn yn 1876,—