Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/203

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ai nid oedd sefyllfa pethau bellach yn cyfiawnhau ei ymddygiad ef a'i gyd-lafurwyr y pryd hwnnw? Cyhoeddodd Mr. Richard y pryd hwn Apêl difrifol, o dan ei enw ei hun, yn datgan canlyniadau arswydus y rhyfel o'r blaen o blaid Twrci, sef rhyfel y Crimea, gyda'r amcan o wrthweithio y teimlad oedd yn cael ei gyffroi yn y wlad o blaid amddiffyn y Twrc, er ei draha. Danghosodd mor wir oedd geiriau y Times, “na fu ymdrech erioed mor fawr i amcan mor isel- wael a'r pryd hwnnw.” Ysgrifennodd Mr. Richard hefyd erthyglau i'r wasg o dan yr enw "Tystiolaethau am gam-reolaeth Twrci;" ac er ei fod wedi ysgrifennu rhai cyffelyb yn amser rhyfel y Crimea, yr oedd enw Mr. Richard erbyn hyn yn fwy dylanwadol, a'r wlad wedi dysgu gwers am ei ffolineb yn myned i'r rhyfel hwnnw.

(1877) Ym mis Medi, 1877, cyflwynodd dirprwyaeth o weithwyr cyffredin, perthynol i Gymdeithas Heddwch Leicester, Anerchiad 'hardd i Mr. Richard am ei lafur a'i wasanaeth mawr yn achos Heddwch. Wrth ddatgan ei ddiolchgarwch, dywedodd Mr. Richard ei fod wedi llafurio am 35 mlynedd o blaid yr achos hwnnw, a hynny er gwaethaf gwg y lluaws yn fynych, yn enwedig yn amser rhyfel y Crimea. Yr oedd yn cofio myned i Newport unwaith