tua'r amser hwnnw, a'r peth cyntaf a welai oedd papur ar y muriau yn galw am i'r bobl ymosod arno pan ddeuai i'r dref. Ond yr oedd pawb bellach yn gweled ynfydrwydd y rhyfel hwnnw. Ar ddiwedd ei araeth, adroddodd y llinellau canlynol,—
Whene's contending parties fight
For private pique or public right,
Armies are formed and Navies manned;
They combat both by sea and land;
When, after many battles past,
Both tired of blows, make peace at last.
What is it, after all, the people get?
Why—Widows, taxes, wooden legs, and debt."
Ym mis Rhagfyr, talodd Mr. Richard ei ymweliad blynyddol â'i etholwyr, a thraddododd, ym Merthyr Tydfil, araeth ragorol, yn bennaf ar y rhyfel rhwng Rwsia a Thwrci. Dywedai ei fod ef yn y Senedd megys rhwng dau dân. Yr oedd yn y Tŷ, fel oddiallan iddo, un blaid yn dadleu dros fyned i ryfel i amddiffyn Rwsia, a phlaid arall eisieu amddiffyn Twrci. Yr oedd John Bull bob amser yn tybied, os byddai cweryl yn rhyw barth o'r byd, y byddai efe ar ei golled, neu yn cael ei ddianrhydeddu os na fyddai ganddo law yn yr helynt; ac yr oedd ar unwaith yn dechreu chwilio am ei ffon. Neu yr oedd, fel y