Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn arbennig fel holwr pwnc. Yr oedd hefyd yn drefnydd gwych, y goreu, meddir, a gafwyd yn y De er amser Howell Harris a Charles o'r Bala. "Meddai lygad craff, ewyllys benderfynol, medr arbennig, ac ynni diderfyn."[1] Yr un ydyw tystiolaeth Dr. Rees am dano.[2] " Yr oedd," meddai," yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a dylanwadol yn y Dywysogaeth; yn addfwyn, ond eto yn benderfynnol; yn dra duwiol, ond heb ddim rhith santeiddrwydd; bob amser yn effeithiol fel pregethwr, ac ar brydiau yn anorchfygol; yn dra doeth a medrus fel trefnydd achosion y cyfundeb, ac yn llafurio yn ddi-baid yng nghyflawniad ei ddyledswyddau." Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf, ac yn brif offeryn, i sefydlu Ysgolion Sabothol Neheudir Cymru, ac y mae yr holl enwadau yn awr yn medi ffrwyth ei lafur. Llafuriai tu hwnt i'r cyffredin. Dywed ei feibion, yn hanes ei fywyd, ei fod yn ystod y ddwy flynedd ar hugain olaf o'i oes wedi pregethu 7,048 o weithiau, wedi gweinyddu y Cymun Santaidd 1,360 o weithiau, wedi bedyddio 824 o blant, wedi cymeryd rhan mewn 651 o gyfarfodydd cyhoeddus, ac wedi teithio 59,092 o filltiroedd, sef mwy na dwy waith amgylchedd y byd.

  1. Y Tadau Methodistaidd.
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales, t.d. 45. HENRY RICHARD, A.S