Yr oedd Ebenezer Richard hefyd yn ysgolhaig da, cyfarwydd yn y ddwy iaith, ac yn meddu rhyw gymaint o wybodaeth am yr ieithoedd clasurol. Bu yn ysgrifennydd y Gymanfa, yn y De, o'r flwyddyn 1813 hyd ei farwolaeth, a chyflawnodd ei waith yn y modd mwyaf medrus a ffyddlon.
Dywedir y gwnaed cais arbennig unwaith i'w demtio i adael y Methodistiaid ac ymuno â'r Eglwys Sefydledig, ond gwrthododd yn bendant, gan ddweud ei fod yn Ymneilltuwr oddiar argyhoeddiad. Hawdd credu hynny, oblegid dywedodd unwaith gyda digllonedd wrth son am y Ddeddf Goddefiad, " Dim ond ein tolerato ni y maent hwy eto. Ffei, ffei, goddef dynion i addoli Duw yn ôl eu cydwybod."[1] Nid rhyfedd fod yr un teimlad yn gorwedd yn ddwfn yng nghalon ei fab, Henry Richard.
Er fod Ebenezer Richard yn teithio llawer, ni fyddai byth yn esgyn i'r pulpud heb fod ganddo bregeth wedi ei pharatoi. Treuliai ei holl amser, pan fyddai gartref, yn ei fyfyrgell, mewn cyfarfodydd crefyddol, neu yn ymweled â'r claf. Mewn gair, a defnyddio ei eiriau ei hun, arhosai gartref yn cyweirio ei rwyd, ac yna elai allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf
- ↑ Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion, t.d. 221.